Darlithydd o Brifysgol Bangor yn cael ei ddewis fel Microsoft Innovative Educator (MIE) Expert
Mae Owen Davies o Ysgol Addysg Prifysgol Bangor wedi ei gydnabod yn arweinydd byd-eang mewn defnyddio technoleg i drawsnewid addysg trwy gael ei enwi'n Microsoft Innovative Educator (MIE) Expert, gan ymuno â dros 6,700 o addysgwyr yn y rhaglen MIE ledled y byd.
Bob blwyddyn mae Microsoft yn dewis addysgwyr arloesol i rannu syniadau, rhoi cynnig ar dulliau gweithredu newydd, a dysgu oddi wrth ei gilydd fel cymuned fyd-eang sydd wedi ymroi i wella canlyniadau myfyrwyr trwy dechnoleg.
Meddai Owen Davies:
"Dwi'n ei theimlo'n fraint i fod yn rhan o gymuned fyd-eang Microsoft Innovative Educator Expert. Fy nod yw dod ag offer proffesiynol ac addysgeg o'r radd flaenaf i fyfyrwyr yr Ysgol Addysg fel y gallant ysbrydoli dysgwyr a hybu cydweithio effeithiol yn eu dosbarthiadau."
Fel MIE Expert, mae addysgwyr yn meithrin eu gallu i ddefnyddio technoleg yn y dosbarth ac yn y cwricwlwm i wella'r ffordd mae myfyrwyr yn dysgu, cynghori Microsoft a sefydliadau addysgol ar sut i integreiddio technoleg mewn ffyrdd cadarn ym myd addysg, ac egluro mewn cynadleddau, digwyddiadau a sesiynau hyfforddi sut y gall technoleg Microsoft wella dysgu.
"Mae Microsoft Innovative Educator Experts yn enghreifftiau clodwiw o addysgwyr yn rhoi dulliau addysgu a dysgu newydd ar waith yn eu dosbarthiadau er mwyn ysgogi eu myfyrwyr a'u galluogi i gyflawni mwy," meddai Anthony Salcito, Is-lywydd, Addysg Fyd-eang, Microsoft. "Rydym yn mawrygu a chefnogi'r gwaith maent yn ei wneud bob dydd!"
Gellwch gael gwybod mwy am y rhaglen MIE Expert yma. Os ydych yn addysgwr a chyda diddordeb mewn ymuno â'r rhaglen MIE, gellwch ddechrau drwy ymuno â'r Microsoft Educator Community, lle gellwch ddysgu a thyfu'n broffesiynol, cyfnewid syniadau ag eraill a dysgu oddi wrthynt, a gwneud cysylltiadau'n fyd-eang ac ennill cydnabyddiaeth.
Gweler hefyd: Bangor yn ymuno â threial Microsoft byd-eang
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2017