Dr Yvonne McDermott Rees yn cyrraedd rhestr fer gwobr Athro'r Gyfraith y Flwyddyn 2016
Mae Dr Yvonne McDermott Rees, Uwch Ddarlithydd y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei henwi ymhlith y chwech sydd wedi cyrraedd rownd derfynol gwobr Athro'r Gyfraith y Flwyddyn 2016. Noddir Gwobr Athro'r Gyfraith y Flwyddyn gan Wasg Prifysgol Rhydychen a'i bwriad yw dathlu addysgu ardderchog ym maes y Gyfraith a chydnabod y gwaith hanfodol y mae athrawon yn ei wneud yn meithrin cyfreithwyr y dyfodol.
Cafodd Yvonne ei gwneud yn Gymrawd Addysgu gan y Brifysgol yn 2014 a'i phenodi'n Gymrawd Academaidd o’r Deml Fewnol i gydnabod ei chyfraniad eithriadol i addysgu ac i ymchwil cyfreithiol'. Yn awr, bydd yn ymuno ag athrawon o bob rhan o'r wlad yn ail gymal y broses feirniadu, sy'n cynnwys arsylwi ar y campws a chyfweld â myfyrwyr a chydweithwyr.
Fel rhan o'r broses feirniadu, bydd yn rhaid i bob un o'r ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ddangos fod ganddynt ddiddordeb brwd mewn arferion addysgu ac mewn datblygu dulliau addysgu sy'n dylanwadu, yn ysgogi ac yn ysbrydoli myfyrwyr i ddysgu; ymrwymiad i gefnogi datblygiad eu myfyrwyr fel unigolion; dulliau cyfathrebu effeithiol a dymunol; a'u bod yn ymwneud â gweithgareddau ysgolheigaidd sy'n dylanwadu ac yn gwella dysgu myfyrwyr a chydweithwyr fel ei gilydd.
“Mae hi wir yn fraint bod fy myfyrwyr a'm cydweithwyr wedi fy enwebu ar gyfer y wobr hon, a dw i wrth fy modd fy mod i wedi cyrraedd y rhestr fer”, meddai Yvonne. “Mae Prifysgol Bangor yn dathlu rhagoriaeth mewn addysgu, a chaiff hyn ei adlewyrchu yn ein canlyniadau rhagorol yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr.”
"Ar nodyn personol, un o'r pethau sy'n rhoi'r boddhad mwyaf i fi yw gweld fy myfyrwyr yn llwyddo â’u graddau ac yn datblygu eu gyrfaoedd, a dw i'n teimlo'n freintiedig iawn fod gen i ran fach i'w chwarae yn eu llwyddiant nhw fel unigolion.”
Wrth roi croeso i'r enwebiad, y trydydd enwebiad mewn tair blynedd i aelodau staff Ysgol y Gyfraith, Bangor, dywedodd yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth yr Ysgol: “Nid trwy ddamwain y mae ein darlithwyr ni wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth hon am y drydedd flwyddyn yn olynol. Roedd Dr Ama Eyo ar y rhestr fer llynedd, a Dr Sarah Nason yn 2014. Mae gennym academyddion arbennig sydd ar frig eu maes, ac sydd yn rhagori mewn addysgu ac ymchwil cyfreithiol, ac sydd yn annog ein myfyrwyr i ymhyfrydu mewn astudio'r Gyfraith ac i gael eu hysbrydoli ganddi.”
“Mae hon yn gystadleuaeth arbennig, gan ei bod yn cydnabod rhagoriaeth mewn addysgu'r gyfraith, ac yn ceisio cydnabod y goreuon - dyma'r gwerthoedd sydd yn ysgogi ein staff academaidd i fynd yr ail filltir gyda'u myfyrwyr. Mae myfyrwyr y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor yn ffodus i gael darlithydd mor ymroddedig ag Yvonne.”
“Bydd pob un ohonom yn croesi ein bysedd dros Yvonne gan ei bod hi nawr yn cystadlu â phum athro arall o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn y rownd derfynol. Diolch i'r myfyrwyr ac i'm cydweithwyr am gefnogi ei henwebiad. Dymunwn yn dda iddi yn y rownd derfynol.”
Cyhoeddir enw enillydd Athro'r Gyfraith y Flwyddyn 2016 mewn digwyddiad addysgu undydd a gynhelir yn Rhydychen yn yr haf.
Dyma enwau'r rhai sydd yn rownd derfynol Athro'r Gyfraith y Flwyddyn 2016
- Jo Boylan-Kemp, Prifysgol Nottingham Trent
- Steve Evans, Prifysgol Caerlŷr
- Lucinda Ferguson, Prifysgol Rhydychen
- Yvonne McDermott Rees, Prifysgol Bangor
- Jennifer Sloan, Prifysgol Hallam Sheffield
- Lisa Webley, Prifysgol Westminster
Dyddiad cyhoeddi: 9 Chwefror 2016