'Dydw i ddim yn gwisgo gemwaith': Sut mae disgyblion byddar yn cael eu gwthio i'r ymylon yn ein hysgolion
Ar ddechrau mis Ebrill, bydd Prifysgol Bangor yn cynnal cynhadledd undydd ar gyfer unigolion sydd â nam ar eu clyw a'u teuluoedd. Cynhelir y digwyddiad ddydd Sadwrn, 5 Ebrill o 10.00 a.m. hyd 3.30 p.m. yn Neuadd Powis, Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Prifysgol Bangor.
Yn dilyn llwyddiant y llynedd, dyma fydd yr ail gynhadledd o'i bath yng ngogledd Cymru. Ei bwriad yw dod ag unigolion a theuluoedd at ei gilydd i gymdeithasu, i drafod y maes, i rannu eu profiadau ac i wrando ar bedwar siaradwr profiadol yn rhannu eu dealltwriaeth a'u harbenigedd. Ar ôl egwyl cinio, bydd sesiwn 'Holi ac ateb' agored, fydd yn gyfle i'r rhai sy'n bresennol i ofyn am gymorth, cyngor ac i annog eraill. Bydd nifer o sefydliadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i'r byddar, yn ogystal â grwpiau gwirfoddol sy'n weithgar yn y maes, hefyd yn bresennol drwy gydol digwyddiadau'r dydd.
Bydd y siaradwyr yn y gynhadledd yn cynnwys:
Mark Isherwood, Aelod Cynulliad Gogledd Cymru a Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer Cymunedau a Thai sydd hefyd yn Aelod o Grwpiau Trawsbleidiol ar faterion yn ymwneud â phobl fyddar;
Jane MacDonald, Prif Ymarferwr Grŵp Anableddau Corfforol a Namau Synhwyraidd Cyngor Conwy;
Siân Williams, SNAP Cymru – athro plant byddar profiadol yng ngogledd orllewin Cymru; a
Katerine Ellen Roberts, myfyriwr Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi wynebu llawer o anawsterau yn ystod ei haddysg gynradd ac uwchradd yng ngogledd Cymru.
Mae Katerine yn cofio:
"Yn ystod dyddiau ysgol, byddai'r ysgol yn aml yn gwneud i mi deimlo fy mod yn faich ac yn drafferth. Mae gen i nam ar fy nghlyw (er fy mod yn darllen gwefusau'n rhwydd) a chofiaf fod un o'r athrawon wedi gwrthod gwisgo'r microffon llabed a fyddai wedi fy ngalluogi i glywed ei wers. Er bod yr athrawon eraill yn ei wisgo a dim ond yn rhy falch o'm helpu, roedd ei adwaith i gais syml o'r fath yn loes calon i mi ac yn sarhaus'.
'Dydw i ddim yn gwisgo gemwaith!' meddai'n ddifeddwl. Ychydig a sylweddolodd nad oeddwn innau chwaith yn mwynhau gwisgo fy nghymhorthion clyw...ond roeddent yn fy ngalluogi i fyw fy mywyd a pharhau â'm haddysg."
Mae anawsterau clyw difrifol yn effeithio ar gyfanswm o 194 o deuluoedd yng ngogledd Cymru ac yn ôl adroddiadau diweddar yn y wasg mae plant sy'n siarad Cymraeg ac â nam ar eu clyw weithiau o dan anfantais ychwanegol.
Mae'r gynhadledd wedi cael ei threfnu er mwyn annog trafodaeth yn y rhanbarth fydd yn ei thro'n llywio polisi'r llywodraeth a, gobeithio, yn esgor ar ymchwil bellach yn y maes. Gobeithir yn fawr hefyd y bydd y gynhadledd yn arwain at wella gwasanaethau clyw ledled Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn.
Bydd arwyddwyr (Iaith Arwyddion Prydain) a Phalanteipyddion yn bresennol trwy gydol y digwyddiad a bydd pob cyflwyniad yn cael ei ffilmio er mwyn bod o fudd i gynulleidfa ehangach. Mae'r gynhadledd am ddim i bawb a bydd te/coffi/diodydd meddal ar gael drwy'r dydd. Dylai'r rhai sy'n dymuno cofrestru gysylltu ag Ysgrifennydd y Gynhadledd - Mrs Iona Rhys Cooke ar (01248) 382255 neu drwy e-bost - i.r.jones@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2014