Dylunwyr blaenllaw yn cymryd rhan yng Nghynhadledd Dylunio Cynnyrch Bangor
Bydd Cynhadledd Dylunio Cynnyrch arloesol ar 7 Mehefin 2018, yn tynnu ynghyd ym Mhrifysgol Bangor rai o'r arweinwyr a'r meddylwyr gorau ym maes Dylunio a Chynhyrchu.
Yn ei phedwaredd flwyddyn, mae cynhadledd ddylunio Bangor yn parhau i ddwyn ynghyd nifer o bobl allweddol o fewn y sector dylunio a gweithgynhyrchu i ysbrydoli ac addysgu. Ymhlith y siaradwyr eleni mae Jude Pullen, seren BBC2 Big Life Fix, cyn ddylunydd yn Dyson ac yn awr Lego; Jan Hellemans dylunydd rhyngweithio ar gyfer cwmni ymgynghoriaeth dylunio rhyngwladol Frog; Rebecca Hayes-Kidd a Sarah Leech o Unilever, Denny Moorhouse, cadeirydd ISC, (International Safety Components) yn ogystal â dau alumni dylunio cynnyrch, Eddie Beardsley, Rheolwr Cyfrifon Cenedlaethol i Karcher UK a Tom Richardson sy’n arwain ar ddylunio a datblygu yn Enviropax – cwmni sy'n gweithgynhyrchu pecynnau bwyd ar gyfer archfarchnadoedd y DU.
Bydd yr achlysur yn apelio at unrhyw un sy'n gweithio ym mhob agwedd ar ddylunio a chynhyrchu neu sydd â diddordeb yn y maes. Bydd y gynhadledd a'r sioe raddio yn sicr o ysgogi ac ysbrydoli rhai sydd â diddordeb ym maes dylunio, rhannu arferion gorau o fewn y diwydiant a chryfhau cysylltiadau rhwng y brifysgol a chwmnïau dylunio a chynhyrchu. Mae llawer o'r rhain eisoes yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor gan roi lleoliadau gwaith i fyfyrwyr dylunio fel rhan o'u cyrsiau gradd.
Wrth sôn am ddigwyddiad y llynedd, dyma oedd gan Peredur Williams, trefnydd yr achlysur a darlithydd mewn Dylunio Cynnyrch yn yr Ysgol Addysg, i'w ddweud:
"Bu Cynhadledd Dylunio Cynnyrch Bangor y llynedd yn llwyddiant ysgubol. Bu gwrando ar gymaint o arbenigwyr yn eu meysydd yn trafod a rhannu eu profiadau yn ysgogiad gwych, nid yn unig i'n myfyrwyr, ond i bawb a ddaeth yno. Rydym yn falch o gynnig yr un llwyfan i'n cyn-fyfyrwyr ac ymarferwyr profiadol unwaith eto. Bydd y gweithgareddau'n rhoi golwg i ni ar y prosesau a welir mewn cynhyrchu a dylunio yn y byd go iawn."
Cynhelir y Gynhadledd yn Sinema, Pontio ar 7 Mehefin 2018 rhwng 9.30am-3.30pm. Mae tocynnau ar werth ar-lein: https://shop.bangor.ac.uk/product-catalogue/ysgol-addysg-school-of-education/the-4thbangor-design-conference-2018-y-4edd-cynhadledd-dylunio-bangor-2018
I gael gwybodaeth bellach ac i gofrestru, anfonwch e-bost at i.p.williams@bangor.ac.uk.
Daw'r gynhadledd i ben gydag agoriad swyddogol y Sioe Raddio, a fydd yn dangos gwaith myfyrwyr dylunio presennol Bangor. Mae’r Sioe Raddio yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio ar agor o 6-9 Mehefin 2018. Mae’n agored i bawb, gyda mynediad am ddim.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2018