Estyn yn dweud bod dysgwyr Cymraeg y gogledd yn “rhagorol'
Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, a sefydlwyd ond 6 mlynedd yn ôl, ac sy’n rhan o Goleg Addysg a Dysgu Gydol Oes Prifysgol Bangor, wedi derbyn y clod uchaf posibl gan yr Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant, Estyn, am ansawdd ei darpariaeth.
Arolygwyd y Ganolfan gan dîm o Arolygwyr Estyn yn ystod yr wythnos 21-25 Tachwedd 2011. Y Ganolfan sy’n gyfrifol am yr holl gyrsiau dysgu Cymraeg i Oedolion yng ngogledd Cymru.
Prif ganfyddiadau'r Arolygwyr yw bod perfformiad presennol y Ganolfan yn “Rhagorol” a bod ei rhagolygon i wella hefyd yn “Rhagorol” – y dyfarniadau uchaf posibl.
Cyfeiriodd Estyn yn ei adroddiad at nifer o nodweddion rhagorol yng ngwaith y Ganolfan ac yn arbennig felly at addysgu o’r safon uchaf, hyfforddiant o’r radd flaenaf i’r tiwtoriaid, a hefyd fod dysgwyr yn llwyddo’n well nag yn unrhyw ran arall o Gymru.
Cyfeiriwyd hefyd at y dewis eang ac amrywiol o gyrsiau sydd ar gael i ddysgwyr Cymraeg ynghyd â’r gefnogaeth sylweddol sydd ar gael iddynt y tu allan i’r dosbarth ar ffurf gweithgareddau cymdeithasol.
Canmolwyd y Ganolfan am ei rheolaeth a’i harweinyddiaeth gref. Dywedodd Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr y Ganolfan: “Dan ni’n eithriadol o falch o dderbyn y dyfarniad yma gan Estyn, sy’n gadarnhad o ba mor uchel ydy safon y tiwtoriaid a’r cyrsiau yma’n y gogledd a pha mor galed mae’r tîm o staff wedi gweithio mewn byr o dro.”
Tra’n derbyn mai dyfarniad i’r Ganolfan yw hwn ychwanegodd bod “y cydweithio sydd wedi bod gyda’n partneriaid – fel y Colegau Addysg Bellach a’r Brifysgol – a’r gefnogaeth rydan ni wedi ei chael ganddyn nhw, wedi bod yn allweddol i’n llwyddiant”.
Mae gan y Ganolfan weledigaeth glir ar gyfer y dyfodol ac y mae’n benderfynol o adeiladu ar ei seiliau cadarn a chynnal rhagoriaeth ymhob agwedd o’i darpariaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2012