Ffilm gan fyfyriwr yn cael ei derbyn i Arddangosfa Gelf Weledol 'Lle Celf' yr Eisteddfod
Bydd Jenni Steele o Ddeganwy, sy’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor, yn cael arddangos ffilm fer yn Y Lle Celf, sef yr Arddangosfa Gelf Weledol uchel ei pharch yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych (6-13 Awst).
Mae Fan Hufen Iâ yn ddarn byr o ffilm a wnaeth Jenni yn yr Eisteddfod y llynedd.
Dywed: “Mae'r ffilm yn syml yn foment atmosfferig a gipiwyd mewn amser o'r Eisteddfod y llynedd.
“Mi wnaeth cenllif o law fy nghadw dan do yn Y Lle Celf tra parodd y gawod drom, yn ffodus iawn gan roi golygfa ddyfrllyd iawn i mi o fan hufen ia unig a'r bobl ddewr a oedd yn mynd heibio y tu allan.
Dwi'n credu y bydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu uniaethu â'r ymdeimlad hwnnw o gael eu gorfodi i aros dan do yn ystod cawod drom yn yr haf, ac edrych drwy ffenestr gyda dafnau glaw yn batrwm arni.
Mae gen i rywbeth am faniau hufen ia hefyd, ac rydw i'n hoffi gwneud ffilmiau sy'n eu cynnwys nhw, sydd i weld yn procio bob amser ar syniad wedi'i ffurfio o amgylch cyffelybiaethau o foddhad a siom.”
Gofynnwyd i Jenni anfon copi o'r ffilm at y bardd, Rhys Davis, a fydd yn ymateb iddi.
Ynghylch cael ei chynnwys yn Y Lle Celf eleni, meddai: “Rydw i wedi ceisio cael Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod i dderbyn fy ngwaith ers sawl blwyddyn, felly mae'n wefr fawr ac yn anrhydedd enfawr i wneud hyn yn 2013.”
Dywedodd yr Athro Nathan Abrams, goruchwyliwr PhD Jenni, “Rydw i wrth fy modd bod gwaith Jenni wedi cael ei dderbyn ar gyfer yr Eisteddfod. Mae Jenni'n dalentog iawn, a gobeithiaf y bydd hyn yn ei galluogi i dderbyn y gydnabyddiaeth a'r gynulleidfa ehangach y mae'n ei haeddu."
Mae Jenni yn fyfyriwr PhD rhan-amser a arweinir drwy ymarfer, sy'n astudio Ffilm, ar ei blwyddyn olaf bellach. Cafodd ei denu i astudio yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau'r Brifysgol, a chyflwynodd ei syniad PhD i'r Athro Nathan Abrams a Dr Llion Iwan a gefnogodd ei chais. Cyn astudio ym Mangor, dysgodd Jenni Gelf a Thecstilau ym mhrojectau cymunedol ac ysgolion Swydd Gaerlŷr. Symudodd i Gymru wedyn yn 2006 ac astudio MA mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Glyndŵr, lle dechreuodd wneud ffilmiau.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013