Gweddnewid canolfan chwaraeon Prifysgol Bangor
Yn dilyn gwaith uwchraddio gwerth £2.5m bydd canolfan chwaraeon Prifysgol Bangor yn cael ei hailenwi'n Ganolfan Brailsford i anrhydeddu'r hyfforddwr beicio, Syr Dave Brailsford, a fagwyd ym mhentref Deiniolen gerllaw.
Yn ddiweddar ychwanegwyd Dôm Chwaraeon at y ganolfan - a elwid Maes Glas o'r blaen. Agorwyd hwnnw'r llynedd gan Seb Coe, ac yn ogystal mae dau gwrt tenis a phêl rwyd dan do wedi'u darparu.
Meddai Syr Dave Brailsford: "Mae'n anrhydedd mawr i mi fod Prifysgol Bangor wedi dewis rhoi fy enw ar ei Chanolfan Chwaraeon a dwi'n hynod falch o weld bod chwaraeon yn chwarae rhan mor ganolog yng ngweithgareddau'r Brifysgol."
Meddai Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon y Brifysgol: "Yn dilyn yr ailddatblygu sylweddol yma fe wnaethom benderfynu ailenwi'r ganolfan, a beth allem ei wneud yn well na rhoi enw Syr Dave Brailsford arni. Yn ogystal â'i lwyddiant mawr yn trawsnewid beicio ym Mhrydain cafodd ei fagu'n lleol ac mae hefyd yn un o Gymrodyr er Anrhydedd y Brifysgol.
Mae ail gam yr adnewyddu yn cael ei wneud ar hyn o bryd ac mae'n cynnwys campfa dau lawr newydd sbon. Bydd yn cynnwys 50 o beiriannau cardiofasgwlaidd amlieithog LifeFitness Discovery diweddaraf a'r offer gwrthiant Hammer Strength o'r safon uchaf.
Yn ogystal bydd yna stiwdio erobigs newydd sbon yno, yn ogystal â champfa berfformio arbenigol a fydd yn cynnwys chwe llwyfan codi Olympaidd.
Bydd y brif neuadd chwaraeon yn cael llawr newydd a bydd ystafelloedd newid newydd i'r cyhoedd hefyd yn cael eu darparu. Yn ogystal ychwanegir ystafell ddosbarth newydd i gynnal cyrsiau hyfforddi a chyfarfodydd."
Disgwylir i'r datblygiad gael ei orffen erbyn yr haf.
Dan arweiniad Syr Dave mae beicwyr o wledydd Prydain wedi dod i'r brig fel y rhai mwyaf llwyddiannus yn y byd, gan ennill 30 medal Olympaidd yn Athen, Beijing a Llundain, 49 o fedalau Paralympaidd a dros 100 o fedalau Pencampwriaeth Byd.
Yn 2010 fe'i penodwyd yn rheolwr tîm beicio 'Team Sky' o Brydain ac roedd y tu ôl i fuddugoliaethau Syr Bradley Wiggins a Chris Froome yn Tour de France 2012 a 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ebrill 2014