Gweithdy seicoleg yn arwain at ddatblygu rhwydwaith i Gymru gyfan i ymchwilio i atal dirywiad ac anabledd gwybyddol yn gysylltiedig â henaint
Yn ddiweddar cynhaliodd yr Ysgol Seicoleg weithdy i drafod atal anabledd a dementia yn gysylltiedig â henaint (trefnwyd gan yr Athro Linda Clare). Daeth nifer dda o academyddion, gweithwyr iechyd proffesiynol, a chynrychiolwyr o sefydliadau gwirfoddol a llywodraeth leol i’r gweithdy. Cafwyd y prif anerchiadau gan Dr Tony Jewell, Prif Swyddog Meddygol Cymru a Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ac fe wnaethant gymryd rhan yn y trafodaethau dilynol.
Meddai Ruth Marks ar ôl yr achlysur: “Mae gweithredu i atal dirywiad ymysg pobl hŷn yng Nghymru yn allweddol i sicrhau bod pobl hŷn yn parhau’n iach ac annibynnol cyhyd â phosibl. Yn ystod trafodaethau yn y gweithdy Heneiddio’n Dda, fe wnes i ganolbwyntio ar bum thema allweddol sydd wedi’u seilio ar Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig i Bobl Hŷn. Y rhain oedd: Annibyniaeth – mae hyn yn cynnwys cymhorthion ac addasiadau i helpu pobl i aros yn eu cartrefi; Cyfranogiad – gwirfoddoli a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol; Gofal - cynllunio gwasanaethau y bydd pobl hŷn eu hunain yn ymwneud â hwy; Hunan foddhad - sicrhau bod cyfleoedd dysgu a chymdeithasu ar gael; ac Urddas – trin pobl hŷn fel yr hoffem gael ein trin ein hunain. Mae atal afiechyd ac anabledd yn fwy na dim ond ymdrin ag iechyd corfforol; mae’n rhaid iddo gynnwys helpu pobl i barhau’n brysur a chymryd rhan fywiog yn eu cymunedau. Dylid cael dewis o weithgareddau wedi’u seilio ar anghenion a diddordebau pobl hŷn. Rhaid cynnwys pobl hŷn yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’u diddordebau ac y byddant yn cael eu defnyddio’n helaeth a’u gwerthfawrogi.”
Gwrandawodd y cynadleddwyr hefyd ar alwad i weithredu gan Gymdeithas Alzheimer, a gyflwynwyd gan y Cyfarwyddwr Ymchwil, Yr Athro Clive Ballard. Cyflwynwyd dulliau gweithredu arloesol newydd a ddatblygwyd gan Age Cymru Gwynedd a Môn (ACGM), gyda’r bwriad o gefnogi heneiddio’n iach. Mae’r dulliau hyn ar hyn o bryd yn destun ymchwil a wneir mewn partneriaeth rhwng ACGM a Phrifysgol Bangor. Canlyniad y gweithdy oedd ffurfio rhwydwaith i Gymru gyfan i ymchwilio i atal dirywiad ac anabledd gwybyddol yn gysylltiedig â henaint. Prif nod y rhwydwaith hwn fydd datblygu cynlluniau ymchwil i wynebu'r her o alluogi pobl i gael bywyd iachach a chyflawn yn ddiweddarach yn eu hoes.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2011