Hanes yn agor ei drysau i'r cyhoedd
Bydd ymchwilwyr a haneswyr yn cael gwledd pan fydd llawysgrifau o'r ddeuddegfed ganrif ac amrywiaeth eang o lyfrau prin yn cael eu harddangos.
Yn dilyn gwaith adnewyddu diweddar, bydd yr Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig ym Mhrifysgol Bangor yn agor ei drysau i'r cyhoedd pan gynhelir diwrnod agored ar 26 Ebrill rhwng 12 a 4.00pm.
Cewch gyfle i weld arddangosfa o gasgliad amrywiol ac unigryw o archifau a llawysgrifau yn ogystal â’r cyfle i gael taith tu ôl i'r llenni yn yr adran archifau.
Bob blwyddyn bydd cannoedd o bobl yn ymweld ag adran Archifau a Chasgliadau Arbennig y brifysgol i wneud ymchwil gan ddefnyddio'r casgliadau ar gyfer amrywiaeth eang o ddisgyblaethau academaidd.
Gyda chanmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn agosáu, bydd mapiau a ffotograffau am frwydr Passchendaele yn cael eu harddangos ynghyd â dyddiaduron o'r ffosydd yn rhoi disgrifiad manwl o fywyd caled y milwyr yn y ffosydd.
Meddai Archifydd Prifysgol Bangor, Einion Thomas, "Bydd ein casgliadau enfawr o ddiddordeb i unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am hanes amrywiol a bywiog gogledd Cymru. Bydd staff yr archifau ar gael yn ystod y diwrnod agored i gynorthwyo ac arwain haneswyr er mwyn iddynt gael y budd mwyaf o'n hadnoddau."
Ni chodir tâl mynediad a bydd lluniaeth ysgafn ar gael yn ystod y diwrnod.
Llun: Map swyddogol y fyddin yn dangos Cefn Pilkem ac Iron Cross lle y lladdwyd Hedd Wyn ar Orffennaf 31, 1917
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2013