Ieithoedd Modern yn dathlu llwyddiant gyda’r AHRC
Mae’r Ysgol Ieithoedd Modern wedi derbyn dwy Gymrodoriaeth uchel eu bri i academyddion ar Ddechrau eu Gyrfa gan gyngor ymchwil yr AHRC ar gyfer 2011. Mae’r llwyddiant hwn yn arbennig o nodedig gan mai anaml y bydd un ysgol yn derbyn dwy gymrodoriaeth o’r fath yn yr un flwyddyn. Bydd y ddwy dderbynwraig lwyddiannus, sef Dr Helen Abbott a Dr Anna Saunders, yn dechrau ar eu cymrodoriaethau yn Ionawr 2011. Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Carol Tully ‘Rydym yn hynod falch o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan ein cydweithwyr, ac mae’r gwobrau hyn yn arwydd o ansawdd yr ymchwil y mae’r Ysgol yn gallu ymfalchïo ynddo.’
Mae Dr Helen Abbott wedi derbyn Cymrodoriaeth ar gyfer ei phrosiect: Killing Off Poetry: Baudelaire Revisited. Gyda chanol hyd at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Ffrainc (pan oedd y rhyngberthynas rhwng barddoniaeth a cherddoriaeth yn ennyn trafodaeth danllyd) yn faes ffocws, bydd y prosiect yn defnyddio astudiaeth achos ddwys ac yn seilio arni ddadansoddiad ehangach o’r berthynas rhwng geiriau a cherddoriaeth. Yn benodol, bydd yn ystyried ‘La Mort des amants’, soned enwog Baudelaire, ac yn edrych beth sy’n digwydd pan fo hi’n cael ei throi’n ffurfiau eraill.
Mae Dr Anna Saunders wedi derbyn Cymrodoriaeth ar gyfer ei phrosiect: Memorialising the German Democratic Republic. Ers yr uno, mae nifer o leoedd cyhoeddus yn nwyrain yr Almaen wedi cael eu rhyddhau o naratifau’r Rhyfel Oer ac wedi cael ystyron o’r newydd, fel eu bod ar gael ar gyfer mathau newydd o goffâd cyhoeddus. Mae tirwedd dwyrain yr Almaen yn newid yn gyflym o ran cofebau, ac mae hyn yn ganolog i lunio cyd-hunaniaethau a chyd-goffadwriaethau, yn enwedig o gofio i’r Almaen gael dwy unbennaeth yn yr ugeinfed ganrif. Er bod llawer o ymchwil wedi ei wneud ar gofebau’n ymwneud â’r Holocost a chyfnod Sosialaeth Genedlaethol, prin yw’r gwaith manwl sydd wedi ei wneud ar Weriniaeth Dwyrain yr Almaen (GDR) a’r etifeddiaeth sosialaidd fel rhan o’r tirwedd hwn – er bod ymchwil hanesyddol helaeth ar y Weriniaeth wedi ei wneud, ynghyd â nifer o weithiau diweddar ar ‘Ostalgie’ a’r modd y mae hunaniaethau dwyrain yr Almaen yn eu hamlygu eu hunain mewn llenyddiaeth, ffilm a diwylliant masnachol. Nod y prosiect hwn yw llenwi’r bwlch trwy lunio monograff a fydd yn edrych ar ddetholiad o astudiaethau achos manwl o gofebau yn nwyrain yr Almaen.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2010