Llawer yn dod i Farchnad Nadolig y Myfyrwyr
Agorodd Neuadd PJ ei drysau i dros 1,000 o gwsmeriaid o bob rhan o’r Brifysgol, yn ogystal â’r gymuned ehangach, ar gyfer ei phumed Ffair Nadolig flynyddol i’w chynnal gan y Myfyrwyr. Manteisiodd ymwelwyr ar y cyfle i brynu cynhyrchion unigryw o waith llaw, yn ogystal ag anrhegion munud olaf ac eitemau i lenwi’r hosan Nadolig. Roedd llawer o’r eitemau ar thema Gymreig neu ryngwladol, ac roedd nifer o stondinau wedi gwerthu eu holl stoc o fewn ychydig oriau.
Tua 110 o fyfyrwyr o bob rhan o Brifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai a gymerodd ran yn y gwaith o gynnal mwy na 50 o stondinau. Roedd rhai o’r cyfranogwyr wedi cymryd rhan yn y gweithdai ategol ar ‘Sut i Brisio’ a ‘Sut i werthu eich nwyddau neu’ch gwasanaeth’ a gynhaliwyd gan ddarlithydd yn Ysgol Adwerthu Mary Portas. Mae cymryd rhan weithredol yn y digwyddiadau hyn a’r gweithdai ategol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymarfer eu creadigrwydd a datblygu medrau menter a chyflogadwyedd megis cynllunio, gwerthu a phrisio, medrau cyfathrebu, ac yn y blaen. Roedd 15 o bwyntiau xp Gwobr Cyflogadwyedd Bangor ar gael i’r myfyrwyr oedd yn cymryd rhan.
Eleni, perfformiwyd cerddoriaeth fyw gan Gôr Cymdeithas Gerdd Bangor a Chymdeithas Gerddoriaeth Werin y Brifysgol.
Roedd yn bleser gan Byddwch Fentrus allu cynnig stondinau i rai cymdeithasau myfyrwyr, megis y Gymdeithas Ddawns, y Gymdeithas Fferm, y Gymdeithas Gwnïo Crefftus ac eraill a oedd yn gallu codi arian ar gyfer cyllideb eu cymdeithas.
Rhoddodd llawer o’r stondinwyr rywfaint neu’r cyfan o’u helw i elusennau, yn cynnwys Cymorth i Ferched Bangor, Coppafeel! ac Ymchwil Canser y DU. Ar ben hynny, eleni, cynhaliodd Jacob Heywood, bachgen 11 oed o Ysgol Friars, stondin i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â dyslecsia ac i godi arian at yr achos – un sy’n agos at ei galon, ac yntau’n dioddef gan yr anhwylder ac yn awyddus i helpu pobl sydd yn yr un sefyllfa.
Llongyfarchiadau i Philip Mandong a Lily Taberner a rannodd y wobr am y stondinau gorau a ddyfarnwyd gan Becky Ryan a David Pritchard o wasanaeth Gyrfaoedd a chyflogadwyedd y Brifysgol.
Roedd gan Philip Madong hyn i’w ddweud: "Roedd cymryd rhan yn y farchnad Nadolig myfyriwr yn gyffrous iawn i mi gan nad oeddwn wedi gwneud rhywbeth fel hyn o'r blaen. Rwy’n dod o Dde Swdan ac yn fyfyriwr MSc Amaeth-goedwigaeth. Mae un o fy narlithwyr yn rhedeg yn elusen sy'n cefnogi plant amddifad yn Kenya, felly cynigiais gynnal stondin yn y farchnad Nadolig i godi arian ar gyfer ffioedd ysgol a gwerslyfrau. Bûm yn gwerthu gemwaith a wnaed yn Kenya a gennym ni yng Nghymru. Mynychais y gweithdy Byddwch Fentrus ar 'Sut i werthu' ac roedd hyn yn ddefnyddiol i wybod sut i gyflwyno'r gemwaith ar y bwrdd mewn ffordd apelgar, gan ddefnyddio lliwiau deniadol, goleuadau a rhoi eitemau ar wahanol uchder. Mi enillon ni’r wobr am y 'stondin a gyflwynir gorau' a chodi £167 mewn rhoddion diolch i’r cyngor gwerthfawr hwn!"
Am fanylion am yr elusen ewch i’w gwefan.
Meddai Cyfarwyddwr Profiad Myfyrwyr Prifysgol Bangor, Maria Lorenzini, am y Farchnad, “Hon yw’r bumed Farchnad Nadolig Myfyrwyr yn olynol i’w chynnal yn y Brifysgol, ac mae wedi mynd o nerth i nerth, o ran ei hansawdd a hefyd o ran amrywiaeth y nwyddau. Mae’n wych o beth fod gennym gymaint o entrepreneuriaeth a chreadigrwydd ymysg ein myfyrwyr, ac rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser a’u profiad i wneud hwn yn ddigwyddiad mor rhyfeddol”.
Hoffai’r tîm Byddwch Fentrus ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser a’u harbenigedd i’r farchnad er mwyn sicrhau ei llwyddiant.
Mae Prifysgol Bangor yn rhan o Echel Ranbarthol Ogledd-orllewin Cymru, sy’n un o chwe chanolfan ranbarthol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn hyrwyddo ei hymrwymiad i annog entrepreneuriaeth ymysg yr ifanc yng Nghymru
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014