Llyfr Jerry Hunter ar Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn
Mae llyfr gan Athro o Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor wedi cyrraedd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2015.
Jerry Hunter yw awdur Y Fro Dywyll, nofel hanesyddol sydd wedi ei lleoli yng Nghymru, Lloegr a gogledd America, a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa.
Mae’r awdur, sydd hefyd yn Ddirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol, eisoes wedi cyhoeddi tair nofel ar gyfer oedolion, pum cyfrol academaidd ac un nofel i blant.
Dywedodd Jerry Hunter, sy’n frodor o Cincinnati, Ohio am y cyhoeddiad: “Rwy’n hynod o falch fod Y Fro Dywyll ar y rhestr fer eleni. Mae hefyd yn fraint fy mod ar yr un pryd yn cynrychioli Prifysgol Bangor a bod Ysgol y Gymraeg yn cael cydnabyddiaeth deilwng.”
Nid dyma’r tro cyntaf i staff Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor gael llwyddiant yn y byd llenyddol.
Dyma’r wythfed tro i lyfrau gan academyddion yr Ysgol gyrraedd y rhestr fer, sydd yn cynnwys yr awduron Jason Walford Davies, Gerwyn Wiliams, Angharad Price a Jerry Hunter. Cyrhaeddodd tri o’r llyfrau’r brig gan ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn; Tir Neb gan Gerwyn Wiliams ym 1997, O! Tyn y Gorchudd gan Angharad Price yn 2003 a Llwch Cenhedloedd: Y Cymry a Rhyfel Cartref America gan Jerry Hunter yn 2004.
Mae staff yr Ysgol wedi sicrhau llwyddiant am eu gwaith barddonol a llenyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol dros y blynyddoedd hefyd. Enillodd Gerwyn Wiliams y Goron ym 1994 a Jason Walford Davies yn 2004. Ysgrifennwyd nofelau buddugol cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith gan Angharad Price yn 2002, a Dr Jerry Hunter yn 2010.
Cyhoeddir yr enillwyr ar y 4ydd o Fehefin
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2015