Mae cyfres newydd Netflix yn dangos agwedd arall ar ferched yn y chwedl Arthuraidd, meddai academydd ym Mhrifysgol Bangor
Ddydd Gwener 17 Gorffennaf, bydd Netflix yn dechrau ffrydio ei ddrama ffantasi epig ddiweddaraf, Cursed, sy'n seiliedig ar y chwedl Arthuraidd ac yn canolbwyntio ar chwedl Merch Llyn y Fan Fach.
Wedi'i hymgorffori'n gadarn mewn un llinyn o'r rhamantau, mae'r gyfres 10 rhan yn ail-greu ac yn archwilio themâu bythol ac amserol o ddinistrio'r byd naturiol, sêl grefyddol a gormes, rhyfel disynnwyr a chanfod y dewrder i arwain yn wyneb yr amhosibl.
Yn ganolog i’r fersiwn o’r stori mae Nimue, merch ifanc a ddisgrifir gan wneuthurwyr y rhaglen fel ‘gwrthryfelwraig a gwrach sydd â dawn ddirgel ac a fydd yn cael ei hadnabod fel ‘Merch Llyn y Fan Fach’.
Mae'r Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Arthuraiddym Mhrifysgol Bangor, yn esbonio pam mae'r cymeriad hynod a phwerus hwn yn y chwedl Arthuraidd yn parhau i apelio at bobl.
Meddai'r Athro Radulescu:
"Mae Merch Llyn y Fan Fach fwyaf adnabyddus o straeon rhamant sifalrig Arthuraidd yr hen Ffrangeg, ond yn fy marn i, un o'r rhesymau pam mae'r cymeriad hwn yn parhau i gyfareddu pobl yw bod sawl merch gyda'r teitl hwn mewn gwirionedd. Mae'r storïwyr yn dweud bod un ohonynt wedi dyrchafu Lawnslot, yr enghraifft berffaith o sifalri. Un arall, a elwir yn Vivien/Vivienne neu Nimüe, yw'r cymeriad sydd fwyaf adnabyddus am ei chyfraniad at dranc Myrddin - gan gymryd ei bwerau oddi arno trwy ei hudo a'i ddisodli yn y byd hud.
Yn fersiwn Thomas Malory o'r chwedl Arthuraidd o'r 15fed ganrif, mae'n nodi'n benodol bod sawl 'merch' o'r llyn. Gelwir ar 'brif' ferch Llyn y Fan Fach, fel y mae'n ei galw, sy'n wahanol i Vivien, yn aml i ddilysu digwyddiadau a rhoi gwybodaeth am y gorffennol a'r dyfodol, fel sy'n digwydd yn aml pan na ellir bod yn hollol sicr am gymhellion trosedd nac am y troseddwyr. Ond ni allwn anwybyddu bod Merch Llyn y Fan Fach yn dioddef oherwydd marchog weithiau, fel sy'n wir yn stori Malory am Balin, y marchog sy'n torri ei phen yn ddidostur pan mae hi'n gofyn iddo gael ei ddienyddio am drosedd a gyflawnodd yn y gorffennol.”
Felly mae Merch Llyn y Fan Fach yn chwarae rhan bwysig yn chwedlau Arthur i ymyrryd neu ddweud y gwir am y gorffennol, a hefyd i alltudio merched eraill, fel y gwna pan gyhuddir Gwenhwyfar o wenwyno marchog yn ystod ei gwledd. Mae dirgelwch a hud y cymeriadau hyn hefyd yn golygu bod ganddynt apêl barhaus, yn ôl yr Athro Radulescu:
“Roedd awduron canoloesol yn troi at Dduw am y gair olaf mewn materion dadleuol ynglŷn â'r gwirionedd. Nid yw'r ffaith bod hud a lledrith yn cael ei blethu i'r stori Arthuraidd trwy gymeriadau fel Myrddin a Merch Llyn y Fan Fach yn gwrthdaro â hynny, ond yn hytrach mae'n trafod ffyrdd y gall hud a lledrith gynnal cymdeithas neu gymdeithasau pan nad oes atebion pendant ar gael.. Mae chwedlau yn parhau i apelio’n fawr ar bobl ac yn gwneud drama ddifyr am yr union reswm hwn - maent yn ffordd o ystyried y byd o’n cwmpas heb fynnu atebion pendant.”
Mae'r Athro Raluca Radulescu yn gyfarwyddwr MA Prifysgol Bangor mewn Llenyddiaeth Arthuraidd, yr unig gwrs o'i fath yn y byd. Ceir rhagor o wybodaeth yma: https://www.bangor.ac.uk/courses/postduate/arthurian-literature-ma-pgdip
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2020