Mae seicolegwyr wedi dadlennu sut y gall emosiwn atal prosesau ymenyddol lefel-uchel yn ddiarwybod inni
Mae Seicolegwyr ym Mhrifysgol Bangor yn credu eu bod wedi canfod, am y tro cyntaf, broses sy’n digwydd yn ddwfn o fewn ein hymennydd anymwybodol, lle mae adweithiau cysefin yn rhyngweithio â phrosesau meddyliol uwch. Gan ysgrifennu yn y Journal of Neuroscience (9 Mai, 2012 • 32(19):6485– 6489 • 6485), maent yn nodi adwaith i fewnbynnau ieithyddol negyddol sy’n diffodd prosesu anymwybodol.
Ers chwarter canrif, mae seicolegwyr yn ymwybodol o’r ffaith y gall ein hymennydd brosesu gwybodaeth lefel uchel, megis ystyr, y tu allan i ymwybyddiaeth, ac wedi ymddiddori yn hynny. Yr hyn y mae’r seicolegwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi’i ddarganfod yw’r gwrthwyneb – y gall ein hymennydd ‘benderfynu’, yn anymwybodol, gelu gwybodaeth, a hynny trwy atal mynediad at rai ffurfiau ar wybodaeth.
Mae’r seicolegwyr yn dod i’r casgliad hwn o’u canfyddiadau diweddaraf wrth weithio gyda phobl ddwyieithog. Gan adeiladu ar eu canfyddiad blaenorol fod pobl ddwyieithog yn cyrchu, yn anymwybodol, eu hiaith gyntaf pan fyddant yn darllen yn eu hail iaith, mae’r Seicolegwyr yn yr Ysgol Seicoleg a’r Ganolfan Ymchwil i Ddwyieithrwydd bellach wedi darganfod, yn syfrdanol, fod ein hymennydd yn cau’r union fynedfa at yr iaith frodorol pan fo’n wynebu gair negyddol, megis rhyfel, anghysur, anhwylustod, ac anffodus.
Credant fod hyn yn rhoi’r olwg gyntaf sicr ar broses nad oedd wedi’i phrofi tan hynny, lle mae ein meddwl anymwybodol yn cau gwybodaeth o’n hymwybod neu o’n prosesau meddyliol uwch.
Mae’r canfyddiad hwn yn torri tir newydd yn ein dealltwriaeth o’r rhyngweithiad a geir rhwng emosiwn a’r meddwl yn yr ymennydd. Mae gwaith blaenorol ar deimlad a gwybyddiaeth eisoes wedi dangos bod emosiwn yn effeithio ar weithrediad sylfaenol yr ymennydd, megis sylw, cof, golwg a rheolaeth ar symudiad, ond byth ar lefel brosesu mor uchel ag iaith a dealltwriaeth.
Yn hyn o beth, mae’r ddealltwriaeth fod pobl yn adweithio’n fwy i eiriau ac ymadroddion emosiynol yn eu hiaith gyntaf yn allweddol; dyma’r rheswm fod pobl yn siarad â’u babanod a’u plant yn eu hiaith gyntaf, er eu bod yn byw mewn gwlad sy’n siarad iaith arall, ac er gwaetha’r ffaith eu bod yn rhugl yn yr ail iaith. Cydnabyddir ers peth amser fod dicter, rhegi neu drafod teimladau’r galon â mwy o rym yn iaith frodorol y siaradwr. Mewn geiriau eraill, nid yw gwybodaeth emosiynol mor rymus mewn ail iaith ag mewn iaith frodorol.
Meddai Dr Yan Jing Wu o Ysgol Seicoleg y Brifysgol, “Buom yn dyfeisio’r arbrawf hwn er mwyn datod y rhyngweithiadau anymwybodol rhwng prosesu cynnwys emosiynol a chyrchu system yr iaith frodorol. Rydym yn credu ein bod, am y tro cyntaf, wedi canfod y mecanwaith sy’n gyfrifol am y modd y mae emosiwn yn rheoli ar brosesau meddwl sylfaenol y tu allan i ymwybyddiaeth.
“Efallai fod hon yn broses sy’n debyg i’r mecanwaith o atal meddyliol y mae pobl wedi damcaniaethu yn ei gylch, ond heb erioed gael hyd iddo o’r blaen.”
Felly, pam y byddai’r ymennydd y atal mynediad at yr iaith frodorol ar lefel anymwybodol?
Mae’r Athro Guillaume Thierry yn egluro, “Rydym ni’n credu mai mecanwaith amddiffynnol yw hwn. Rydym yn gwybod bod pobl mewn trawma, er enghraifft, yn ymddwyn yn wahanol iawn. Mae system emosiynol ddyfnach yn yr ymennydd yn addasu prosesau ymwybodol yr wyneb. Efallai fod y mecanwaith ymenyddol hwn yn lleihau, ar yr un pryd, yr effeithiau negyddol a gaiff cynnwys emosiynol annymunol ar ein meddyliadau, er mwyn atal pryder neu anesmwythder meddyliol.”
Mae’n parhau, “Cawsom ein syfrdanu gan ein darganfyddiad. Roeddem yn disgwyl canfod trosiad rhwng y geiriau gwahanol – ac efallai adwaith cryfach i’r gair emosiynol – ond y gwrthwyneb llwyr a gawsom i’r hyn yr oeddem wedi’i ddisgwyl – bod yr ymateb i’r gair negyddol wedi’i ddileu.”
Gwnaeth y seicolegwyr y darganfyddiad hwn wrth ofyn i bobl Tsieineaidd a oedd yn siarad Saesneg a oedd parau o eiriau yn gysylltiedig o ran eu hystyr. Roedd rhai o’r parau o eiriau yn gysylltiedig yn ei cyfieithiadau i’r Tsieinëeg. Er nad oeddent yn cydnabod cysylltiad yn ymwybodol, dadlennodd mesuriadau o weithgaredd trydanol yn yr ymennydd fod y cyfranogwyr dwyieithog, yn anymwybodol, yn cyfieithu’r geiriau. Fodd bynnag, yn ddigon rhyfedd, nid arsylwyd y gweithgaredd hwn pan oedd gan y geiriau Saesneg ystyr negyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2012