Myfyriwr o Harvard ar ymweliad ag Ysgol y Gymraeg
Mae Liam Anton Brannelly yn treulio’r semester cyfredol yn astudio ym Mangor fel rhan o’r cynllun cyfnewid PhD rhwng Adran Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Harvard ac Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor.
Derbyniodd Anton BA ac MA mewn Saesneg o Goleg Hunter (Prifysgol Dinas Efrog Newydd) lle y datblygodd ddiddordeb yn ieithoedd a llenyddiaethau canoloesol Prydain ac Iwerddon. Yng Ngholeg Hunter, roedd y rhan fwyaf o’i ymchwil ar lefel ôl-radd yn ymwneud â’r syniad o amlieithrwydd Prydeinig a’r rhyngberthynas rhwng Saesneg, Lladin a Chymraeg yn neilltuol, yn y cyfnod canoloesol hwyr a’r cyfnod modern cynnar. Roedd ei ymchwil ddiweddarach (a arweiniodd at ei thesis MA) yn canolbwyntio bron yn llwyr ar farddoniaeth ganoloesol Gymraeg a gwaith Dafydd ap Gwilym yn fwyaf arbennig.
Ymhlith ei ddiddordebau cyfredol y mae archwilio agweddau canoloesol Gwyddelig a Chymreig tuag at rywedd a rhywioldeb, y modd y portreeadir harddwch gwrywaidd yn y traddodiad barddol, a’r modd y gellir cymhwyso theorïau ôl-fodernaidd o ddiwedd yr ugeinfed ganrif at lenyddiaeth Geltaidd o’r Oesoedd Canol.
Y mae ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r Athro Jason Walford Davies, Dr Aled Llion Jones a’r Athro Peredur Lynch yn ogystal â dilyn dosbarthiadau i gryfhau ei afael ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2017