Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yng Ngwledd Conwy
Aeth cymdeithasau Undeb Myfyrwyr Bangor yn llu i gymryd rhan yng ngŵyl hynod boblogaidd Gwledd Conwy. Cafodd Cymdeithas Ail-greu’r Canol Oesoedd Prifysgol Bangor, Cymdeithas Drama Saesneg Bangor (BEDS) a Pharti Dawns Cadi Ha Morris i gyd eu gwahodd i’r ŵyl yn dilyn llwyddiant mawr Diwrnod Canoloesol Biwmares ddiwedd y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Roedd yna amrywiaeth eang o weithgareddau i’w gweld ac i gymryd rhan ynddynt dros y penwythnos, ac ar wahân i gyfranogiad cymdeithasau’r brifysgol, roedd yna nifer o grwpiau dawns, cerddoriaeth, perfformiad ac ail-greu eraill yn cynnig adloniant ac addysg i bawb. Heb anghofio wrth gwrs y lliaws stondinau bwyd a diod rhagorol a ddaeth o bell ac agos i’n cynhesu yn y tywydd hydrefol.
Sefydlodd Cymdeithas Ail-greu’r Canol Oesoedd wersyll hanes byw o fewn muriau Castell Conwy a byw yn ddilys fel pobl o’r 15fed ganrif am y penwythnos. O wisgo yn ffasiynau’r oes at goginio ryseitiau o’r cyfnod ‘doedd dim prinder arddangosfeydd addysgiadol ar gyfer y cyhoedd i’w hanfon yn ôl i’r oes a fu. Ar ben yr hanes byw, cafwyd brwydr ac arddangosfeydd ymladd a daniodd yr awyrgylch ag adrenalin a rhoi cyfle i’r cyhoedd weld technegau brwydro’n cael eu hail-greu yn ogystal ag ymladd twrnamaint.
Perfformiodd BEDS ar y stryd yn yr ŵyl gydag ystod o wahanol berfformiadau’n cael eu cynnal drwy’r dref ac roeddynt hwythau mewn gwisgoedd hynafol a lliwgar ac mor ddramatig ag erioed. O ddweud jôcs at werthu creiriau fe wnaethon nhw ysgafnhau’r awyrgylch a dod â hwyl i’r ŵyl.
Dywedodd Anthony Butcher, un o’r myfyrwyr oedd ynghlwm â threfnu cyfraniad UM i’r ŵyl, wrth Seren: "Yn dilyn cydweithio rhwng nifer o gymdeithasau ym Miwmares fis Mai diwethaf, fe’n gwahoddwyd i gymryd rhan yng Ngŵyl Conwy – gŵyl fwyd enfawr sy’n meddiannu Conwy am benwythnos, gan dynnu hyd at 30,000 o bobl." Dywedodd ymhellach ynghylch BEDS: “Fe wnaeth yr holl actorion waith gwych, yn plethu straeon am gamweddau, yn difyrru teuluoedd ac yn gwerthu creiriau.”
Meddai Daniel Goodall, Capten Cymdeithas Ail-greu’r Canol Oesoedd: “Mae ein criw wedi gwneud yn anhygoel o dda a chafodd swyddogion CADW argraff hynod o ffafriol o’n harddangosfeydd a’n hadloniant addysgiadol yn y castell.”
Yn ei grynswth teimlwyd fod yr achlysur yn llwyddiant ysgubol i gymdeithasau UM ac mae’r lefel o bartneriaeth rhwng myfyrwyr a thrigolion lleol gogledd Cymru yn cryfhau drwy’r amser.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2011