Partneriaeth traws diwydiant yn cyflwyno darllediad cenedlaethol.
Mae partneriaeth 18mis rhwng Ensemble Preswyl Venue Cymru a Phrifysgol Bangor, Ensemble Cymru gyda chwmni teledu, Cwmni Fflic wedi bod ar waith i godi proffil cerddoriaeth glasurol yn sylweddol, i gynulleidfaoedd teuluol ar draws Cymru.
Bydd y prosiect, sydd wedi’i arwain gan Ensemble Cymru , yn cynnwys addasiad Cymraeg o waith Prokofiev ‘Pedr a’r Blaidd’ gyda llais yr actor Rhys Ifans (Notting Hill, The Amazing Spiderman, Harry Potter and the Deathly Hallows) a rhyddhad CD cyntaf Ensemble Cymru (dan yr arweinydd Paul Watkins), cyfres o raglenni teledu ar gyfer S4C dros y Nadolig a chynhyrchiad ar gyfer taith fyw ar draws Cymru mis Mawrth 2014.
Mae'r prosiect wedi parhau i ddatblygu yn dilyn llwyddiant Ensemble Cymru i godi £ 15,000 trwy gynllun ‘The Big Give’ gyda chefnogaeth sylweddol gan y Loteri Cenedlaethol, Cyngor Celfyddydau Cymru , Ymddiriedolaeth Patsy Wood a’r Colwinston Charitable Trust.
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru a Swyddog Gweithredol, Peryn Clement -Evans;
"Pan ddechreuon ni gynllunio beth oedd yn wreiddiol yn brosiect recordio, wnes i byth ddychmygu y byddwn, pum mlynedd yn ddiweddarach, ar drywydd dod â cherddoriaeth yr ydym mor angerddol yn ei gylch, i gymaint o blant, ysgolion a theuluoedd ledled Cymru . Rwy’n gwerthfawrogi'n fawr yr ymdeimlad o gydweithio a’r creadigrwydd sydd wedi bod yn ein gwaith gyda Cwmni Fflic . Rwy'n gwybod fod y Ensemble wedi ennill yn fawr iawn o'r profiad."
Dywedodd Beca Evans, cynhyrchydd ar gyfer Cwmni Fflic :
"Mae hi’n hynod bwysig gwthio ffiniau a chael gwared â rhagfarnau ynglyn a cherddoriaeth cerddorfaol- nid yw’n elitiadd- mae’n apelio i bawb o bob oedran a chefndir.. Mae’n hynod bwysig i gwmnïau teledu fel Fflic i gyd-weithio gyda chwmnïau ag elusennau fel Ensemble Cymru- dau fyd yn uno er mwyn creu gwaith cofiadwy safonol ac ysbrydoledig"
Bydd darllediadau ar dros gyfnod y Nadolig gan gynnwys rhaglen ddogfen ‘Tu ol i’r llen’ am y brose recordio ‘Pedr a’r Blaidd’, cyfres o gyflwyniadau am wahanol adrannau o'r gerddorfa ( gerddoriaeth - Gareth Glyn , cyflwynydd cymeriad plant Cymru Dona Direidi , a pherfformiad byw o Pedr a’r Blaidd gen Prokofiev (llais - Rhys Ifans ; Darluniau- darlunydd Marc Vyvyan Jones)
Am rhagor o wybodaeth am y darllediadau a dyddiadau'r daith cenedlaethol ewch i www.ensemblecymru.co.uk
Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2013