Polisi Cymdeithasol yn cyrraedd 10 uchaf y Deyrnas Unedig yn nhablau cynghrair diweddaraf y Guardian
Mae Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei osod ymysg y 10 uchaf mewn dau faes yn y Guardian University Guide diweddaraf.
Cyrhaeddodd Bangor safle rhif 6 yn y DU yn y maes 'hynt gyrfa ar ôl chwe mis', sy'n mesur cyflogadwyedd graddedigion 6 mis ar ôl iddynt raddio; ac yn 7fed yn y maes 'bodlon ag adborth' - dangosydd o ba mor fodlon yw myfyrwyr â'r adborth ac asesu a ddarperir gan ddarlithwyr.
Mae'r canlyniad diweddaraf hwn yn dilyn gosod Bangor yn 8fed yn y Deyrnas Unedig - ac yn uchaf yng Nghymru - am Bolisi Cymdeithasol, yn ôl y tablau cynghrair pwnc diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Complete University Guide.
Dywedodd Dr Hefin Gwilym, Arweinydd pwnc Polisi Cymdeithasol:
"Mae'n galonogol gweld llwyddiant ein myfyrwyr ac ymroddiad ein darlithwyr Polisi Cymdeithasol yn cael eu cydnabod yn yr argraffiad diweddaraf hwn o'r Guardian University Guide ”.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2017