Prifysgol Bangor yn Cefnogi Pythefnos Masnach Deg 2016
Mae Prifysgol Bangor yn galw ar yr holl fyfyrwyr, staff a’r gymuned leol i ymuno yn y dathliadau ar gyfer Pythefnos Masnach Deg 2016, sy'n dechrau ar y 29ain Chwefror.
Thema’r dathliad eleni yw “Steddwch Am Frecwast – Sefwch am Ffermwyr” ac i nodi’r achlysur, bydd aelodau o grŵp Masnach Deg y Brifysgol yn mwynhau brecwast ym mwyty Gorad. Bydd y brecwast yn cynnwys nwyddau Masnach Deg fel te, coffi a bananas.
"Brecwast yw pryd pwysicaf y dydd, ond nid oes miliynau o ffermwyr sy'n gweithio mewn gwledydd datblygol yn ennill digon i wybod o ble mae eu pryd nesaf yn dod. Mae mannau gwerthu bwyd a diod y Brifysgol wedi eu hymrwymo'n llwyr i’r ymgyrch hon a phob blwyddyn rydym yn cynyddu nifer y nwyddau Masnach Deg a ddefnyddir." meddai Angela Church, Pennaeth Arlwyo a Chynadledda’r Brifysgol.
Mae'r Brifysgol, sydd wedi cael statws Masnach Deg ers 2009, unwaith eto wedi ymuno â Grŵp Masnach Deg Dinas Bangor a Champws Byw i ddathlu’r pythefnos. Mae’r digwyddiadau eleni yn cynnwys Ffair Masnach Deg, cwis Dydd Gŵyl Dewi, cystadleuaeth pobi, Carioci a Choctels Masnach Deg a digwyddiad caru eich dillad yng Nghanolfan Deiniol, Bangor. Trwy Gydol y pythefnos bydd brecwast Masnach Deg yn cael ei weini ym mwyty Gorad a gwerthir myffins siocled a banana Masnach Deg ar draws llefydd bwyta'r Brifysgol.
Mae grŵp Masnach Deg y Brifysgol yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Adran Gwasanaethau Masnachol, y Lab Cynaliadwyedd, Campws Byw ac Undeb y Myfyrwyr.
Yn siarad ar ran y grŵp meddai Mair Rowlands, o'r Lab Cynaliadwyedd: "Rydym yn gobeithio y bydd myfyrwyr, staff ac aelodau o'r cyhoedd yn cefnogi ein gweithgareddau. Mae cam syml fel prynu nwyddau Masnach Deg, sydd ar gael ym mhob siop campws ac yn mannau bwyd y Brifysgol, yn galluogi ffermwyr mewn rhai o gymunedau tlotaf y byd i ennill incwm cynaliadwy a buddsoddi mewn prosiectau sydd o fudd i’w hardal."
Am fanylion llawn o holl ddigwyddiadau Masnach Deg y Brifysgol, ewch i’r wefan yma.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2016