Prifysgol Bangor yn Cynnal Seminar i drafod Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch
Mae Bangor yn falch o gyhoeddi mai hi yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i gynnal seminar technegol ar yr Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch - y dechnoleg a fydd yn cael ei defnyddio gan Horizon Nuclear Power yn Wylfa Newydd ar Ynys Môn.
Mae'r seminar yn un mewn cyfres o ddigwyddiadau sy'n cael eu trefnu yn y Deyrnas Unedig, ac roedd yn cynnwys cyflwyniadau gan Hitachi-GE Nuclear Energy Ltd a Horizon Nuclear Power yn Adeilad Reichel yn y brifysgol.
Cyflwynodd tîm Hitachi-GE ddisgrifiad cyffredinol o'r ABWR i amrywiaeth eang o gynrychiolwyr o ddiwydiant ac academia, a bu'n trafod hefyd y dulliau adeiladu uwch sydd wedi sicrhau ei ddatblygiad llwyddiannus yn y gorffennol. Hefyd cyflwynodd Horizon amlinelliad o broject Wylfa Newydd a'r cynnydd hyd yma.
Amcan y seminar oedd helpu cynrychiolwyr i ddeall y dechnoleg yn well, gan fod Hitachi-GE yn dod â thechnoleg ABWR i'r DU am y tro cyntaf.
Wrth iddo agor y seminar, dywedodd Yr Athro David Shepherd, Dirprwy i'r Is-ganghellor ym Mhrifysgol Bangor: "Ers llofnodi ein Memorandwm Dealltwriaeth ym mis Ionawr i weithio gyda Horizon Nuclear Power, buom yn chwilio am gyfleoedd i gydweithio'n agosach ar amrywiaeth o weithgareddau. Rydw i wrth fy modd, felly, bod Prifysgol Bangor wedi gallu cynnal y digwyddiad hwn, ar y cyd â Horizon a Hitachi-GE. Mae'r digwyddiad wedi dod ag amrywiaeth o randdeiliaid gyda diddordeb cyffredin mewn deall y dechnoleg carbon isel hon at ei gilydd.
Dywedodd Shunsuke Utena, Swyddog Gweithredol tîm Ynni Niwclear Hitachi Europe: "Yr ABWR yw'r adweithydd gweithredol mwyaf datblygedig yn y byd, ac mae wedi profi'n ddibynadwy iawn o ran ei adeiladwaith a'i weithrediad.
"Mae’n bleser gweithio gyda Phrifysgol Bangor ar y seminar hwn, a thrafod y dechnoleg, yn fanwl, gyda rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw Gogledd Cymru mewn amrywiaeth o feysydd academaidd".
Dywedodd Mark Tippett, Rheolwr Dysgu a Datblygu yn Horizon Nuclear Power: "Fel sefydliad academaidd blaenllaw yng Nghymru, roedd Prifysgol Bangor yn ddewis naturiol i gynnal y seminar hwn, ac mae'r digwyddiad yn brawf pellach o'r berthynas sy'n datblygu rhyngom. Byddwn yn ystyried darparu seminarau technegol pellach mewn partneriaeth â'r brifysgol wrth i'r project fynd rhagddo."
Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2015