Prifysgol Bangor yng Ngholeg Llandrillo
Mae dros 400 o fyfyrwyr wedi cychwyn astudio cyrsiau addysg uwch yng Ngholeg Llandrillo sy’n golygu y gallant ennill graddau Prifysgol Bangor am y tro cyntaf.
Cafodd dros 20 o raglenni eu dilysu yn ystod yr haf. Mae'r rhain yn cynnwys cyrsiau amrywiol fel Graddau Sylfaen mewn Technolegau Ynni a Phŵer, y Cyfryngau Digidol a chynhyrchu ar gyfer teledu, Rheoli Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth ac Astudiaethau Heddlu a graddau Sylfaen ac ychwanegol er mwyn cael gradd mewn pynciau fel Hyfforddi Chwaraeon, Rheolaeth Adwerthu, Astudiaethau Byddar a Rheoli Teithio a Thwristiaeth yn ogystal á graddau BA mewn Rheolaeth a Busnes a rheolaeth Lletygarwch.
Bu Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John Hughes a’r Cofrestrydd, Dr David Roberts yn ymweld â 'Chanolfan newydd y Brifysgol' ar gampws Coleg Llandrillo Cymru yn Llandrillo-yn-rhos yn ddiweddar, ynghyd â Phennaeth y Coleg, Mr Huw Evans OBE. Yno buont yn cwrdd â’r myfyrwyr sy’n dilyn y cyrsiau addysg uwch a ddilysir gan y Brifysgol. Bydd ‘Canolfan y Brifysgol’ yn cynnig cyfleusterau pwrpasol ar gyfer myfyrwyr addysg uwch Coleg Llandrillo ac yn atgyfnerthu statws y coleg yn darparu cyrsiau gradd o ansawdd uchel yn lleol.
Meddai Prifathro Coleg Llandrillo Cymru, Huw Evans: “Mae’r Coleg wedi’i ymrwymo i gefnogi’r economi leol a chynnig rhagor o gyfleoedd i symud ymlaen at lefel gradd. Mae’r Ganolfan yn gam bwysig i’r cyfeiriad hwn.”
Meddai Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John Hughes: “Mae’r cydweithio agos sydd gennym yn awr gyda Choleg Llandrillo yn gweithio’n dda ac yn enghraifft o sut y gall sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach gydweithio er lles y rhanbarth.”
Meddai John Hobson o Landudno, sy’n astudio BA Anrhydedd mewn Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth: “Fel myfyriwr hŷn, mae’n dda cael y cyfle i astudio ar lefel gradd ac ennill gradd Prifysgol Bangor mewn coleg addysg bellach lleol.”
Yn dilyn cytundeb a wnaed yn gynharach eleni, mae Prifysgol Bangor a Choleg Llandrillo Cymru yn cydweithio i ehangu mynediad at addysg uwch, datblygu dilyniant llawer mwy systematig o addysg bellach i addysg uwch a gwella sgiliau. Mae'r Bartneriaeth newydd yn mynd i'r afael â'r heriau a nodwyd yn strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch, 'Er Mwyn Ein Dyfodol', i ddatblygu cyfleoedd i gefnogi ffyniant economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yn y rhanbarth.
Yn y dyfodol, bydd adain busnes y ddau sefydliad - "Pwynt Busnes" y Coleg a “Chanolfan Rheolaeth" y Brifysgol - hefyd yn cydweithio’n agosach ac yn datblygu mentrau ar y cyd.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2011