REF 2014: Ymchwil Cerddoriaeth yn yr 20 Uchaf
Mae canlyniadau REF 2014 wedi sicrhau safle Prifysgol Bangor fel un o'r 20 uchaf ymhlith sefydliadau Prydain ar gyfer ymchwil gerddorol.
Barnwyd bod 81% o gyd-gyflwyniad yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau gyda'r orau yn y byd (4*) neu yn rhagorol yn rhyngwladol (3*). Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 11% ar berfformiad cryf iawn yr Ysgol yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil (RAE) blaenorol, ac yn cydnabod effaith enfawr ymchwil yr Ysgol yng Nghymru, ac ar draws Prydain, Ewrop a gweddill y byd.
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol Dr Chris Collins "Mae'r canlyniad hwn yn cyfiawnhau popeth mae'r Ysgol Cerddoriaeth yn sefyll drosto. Mae ein gweithgaredd ymchwil yn gadarn ac yn flaengar, ond mae hefyd yn hynod o eang ei amrediad, yn cynnwys ymchwil i gerddoleg, ethnogerddoreg, cyfansoddi, perfformiad a cherddoriaeth ac iechyd. Mae'r staff yn dysgu'n uniongyrchol o'u harbenigeddau ymchwil, ac mae'n nodedig ein bod wedi cyflawni'r canlyniad rhagorol hwn ar yr un pryd â sgorio graddfa foddhad o 91% yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr.
"Gyda'n lleoliad daearyddol rhagorol, ein cymuned fywiog o staff a myfyrwyr, a’n hamgylchedd dwyieithog unigryw gydag agwedd ryngwladol, nid oes gwell lle i astudio ac ymchwilio i Gerddoriaeth yn ei holl agweddau."
Gellir mynd at dabl cryno yn rhoi canlyniadau REF y Brifysgol yma.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014