Sioned Davies yn cael ei henwi'n 'Aelod Staff Cefnogi'r Flwyddyn'
Llongyfarchiadau i Sioned Davies, Gweinyddwr a Chynorthwywr Personol yr Ysgol, a dderbyniodd wobr 'Aelod Staff Cefnogi'r Flwyddyn' yn ddiweddar yn y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr.
Cafodd Sioned ei henwebu ddwywaith o'r blaen ond dyma'r tro cyntaf iddi ennill y wobr, a gyflwynwyd iddi mewn seremoni fawreddog yn Neuadd Prichard Jones ddydd Gwener, 29 Ebrill.
Yn bresennol hefyd roedd Dr Julia Wardhaugh, Uwch Ddarlithydd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, a ddaeth o drwch blewyn i ennill y wobr am Gefnogaeth Fugeiliol Eithriadol.
Mae'r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr yn dathlu'r safon uchel o gefnogaeth addysgu a bugeiliol a roddir gan staff academaidd a gweinyddol ar draws y brifysgol. Y myfyrwyr eu hunain sy'n enwebu staff ar gyfer y gwobrau.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2016