Wendy Ashurst yn derbyn Cymrodoriaeth i gydnabod rhagoriaeth addysgu
Llongyfarchiadau i Wendy Ashurst, Darlithydd mewn Cyfrifeg, sydd wedi derbyn Cymrodoriaeth Dysgu gan Brifysgol Bangor i gydnabod ei rhagoriaeth addysgu.
Mae Wendy yn Gyfrifydd Siartredig cymwysedig gyda dros 15 mlynedd o brofiad mewn ymarfer ac addysg cyfrifyddu. Ymunodd ag Ysgol Busnes Bangor yn 2008. Ers hynny, mae hi wedi cyfrannu'n helaeth at raglenni cyfrifeg israddedig ac ôl-raddedig.
Disgrifiwyd Wendy gan Bennaeth yr Ysgol John Thornton fel "athrawes eithriadol sy'n defnyddio dulliau arloesol i gymell ac ysbrydoli ei myfyrwyr, sydd yn dipyn o dasg o ystyried y dosbarthiadau mawr iawn".
Mae Wendy wedi chwarae rhan allweddol hefyd mewn cryfhau cysylltiadau Ysgol Busnes Bangor â'r corff cyfrifeg proffesiynol CIMA (Sefydliad Siartredig y Cyfrifyddion Rheoli) "Mae Wendy wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr tuag at broses achredu'r BA/BSc (Anrhydedd) mewn Cyfrifeg a Chyllid gyda CIMA", meddai'r Athro Thornton. "Mae'r cysylltiadau rhwng Ysgol Busnes Bangor a’r cyrff proffesiynol yn hanfodol bwysig ar gyfer swyddi yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod ein modiwlau cyfrifeg ni'n cadw cyswllt mor agos â phosib â'u eu rhaglenni arholi.
"Mae Wendy wedi cryfhau'r cysylltiadau hyn ymhellach trwy estyn gwahoddiadau rheolaidd i gynrychiolwyr CIMA i roi cyflwyniadau i fyfyrwyr. Mae’r digwyddiadau hyn yn boblogaidd iawn ymysg myfyrwyr."
Dyma'r drydedd Gymrodoriaeth Addysgu a ddyfarnwyd ym maes Cyfrifeg mewn tair blynedd, gyda Colin Bradley a Sara Closs-Davies hefyd wedi derbyn yr anrhydedd, Colin yn 2014 a Sara yn 2013.
Dyma rai o sylwadau myfyrwyr am Wendy a'i dulliau addysgu:
"Mae Ms Ashurst yn ddarlithydd gwych ac mae'n parhau i ddarparu esboniadau eglur a gwybodus am bwnc y mae hi'n amlwg yn ei ddeall ac yn paratoi'n dda ar ei gyfer."
"Yn y lle cyntaf roeddwn i'n cael tipyn o anhawster gyda'r gwaith yn y modiwl dadansoddi datganiadau ariannol ond mae Wendy yn wych am egluro pethau ac am wneud y gwaith yn llawer haws ei ddeall. Mae bob amser yn awyddus iawn i helpu mewn unrhyw ffordd bosib."
“[Wendy] oedd y darlithydd gorau oedd gen i drwy gydol fy amser yn y brifysgol. Mae'n gwybod yn iawn sut i wneud i fyfyriwr ddeall gwybodaeth gymhleth."
"Mae Wendy yn athrawes ragorol sy'n gwthio myfyrwyr i berfformio hyd eu heithaf."
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015