Wythnos i’w chofio i Aelwyd JMJ yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018
Mae Aelwyd Urdd JMJ, sef aelwyd neuadd Gymraeg Prifysgol Bangor, wedi cael Eisteddfod yr Urdd nodedig eleni, gyda’r Gadair, y Goron a gwobrau yn y prif gystadlaethau corawl yn cael eu cipio gan yr aelwyd a’i haelodau.
Ddydd Iau, cadeirwyd Afallon, sef Osian Owen am gyfansoddi cerdd gaeth ar y testun ‘Bannau’. Yn frodor o’r Felinheli, Osian hefyd ennillodd y gadair a’r goron yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yn gynharach eleni. Y beirniad ym Mrycheiniog eleni oedd Gruffudd Antur a Mari Lisa ac wrth draddodi o’r llwyfan, dywedwyd bod Osian wedi llwyddo ‘i fynegi ei hun [a’n] cyffwrdd ni fel beirniaid yn effeithiol mewn delweddau a chyffelybiaethau’.
Ddydd Gwener, cynhaliwyd seremoni Cystadleuaeth y Goron ac aelod arall o Aelwyd JMJ ddaeth i’r brig, sef Erin Hughes o Ben Llŷn. Roedd y seremoni fodd bynnag yn wahanol i’r arfer gan, yn anffodus, nad oedd Erin yn medru bod yn bresennol oherwydd ei bod hi’n dioddef o gyflwr sy’n ymyrryd ar y cyswllt rhwng y nerfau a’r cyhyrau; cyflwr a elwir yn Myasthenia Gravis. Cafwyd seremoni emosiynol, ond hynod urddasol, a dymuniad Erin oedd i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr prin hwn. Yn ei habsenoldeb, cyflwynwyd ei choron i’r Athro Gerwyn Wiliams, Pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac sydd wedi bod yn diwtor ysbrydoledig iddi. Bydd yr Urdd yn trefnu seremoni i anrhydeddu Erin maes o law.
Mae Dydd Sadwrn yr Eisteddfod yn adnabyddus am gystadlu brwd ac uchel-ei-safon rhwng aelwydydd yr Urdd ac roedd presenoldeb Aelwyd JMJ yn amlwg, gan iddynt lwyddo i ennill medal ymhob un cystadleuaeth lleisiol ar gyfer grŵp, parti neu gôr. Profwyd y llwyddiant cyntaf yn y gystadleuaeth Grŵp Cerdd Dant 19-25 oed, gyda parti’r aelwyd yn llwyddo i gipio’r ail safle. Gosodwyd y darn gan un o lasfyfyrwyr yr aelwyd, Elain Rhys o Ynys Môn, sy’n astudio cerddoriaeth yn y brifysgol.
Yng nghystadleuaeth yr ensemble lleisiol, canodd Steffan Dafydd, Elain Rhys, Elin Angharad, Branwen Roberts ac Ioan Rees (oll yn fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn astudio’r Gymraeg neu Gerddoriaeth yn y brifysgol) drefniant o ‘Merch o Port’ gan Neil Rosser. Ioan Rees fu’n gyfrifol am y trefniant a llwyddwyd i gyrraedd yr ail safle mewn cystadleuaeth a oedd yn arddangos safon uchel iawn.
‘Fy Ngwlad’ gan Gerallt Lloyd Owen oedd y geiriau gosod a ‘Llwyn Hudol’ oedd y gainc ar gyfer gystadleuaeth y Parti Cerdd Dant. Dan hyfforddiant arbennig Huw Harvey, llwyddodd Aelwyd JMJ i gipio’r brif wobr.
Cafwyd cystadleuaeth arbennig yn rhagbrofion y partïon merched a’r darn gosod eleni oedd ‘Angor’ gan Tudur Huws Jones. Arweinydd y parti merched eleni oedd Liam John Evans, myfyriwr Cymraeg a Hanes yn y drydedd flwyddyn, a daeth y merched yn ail gyda pherfformiad teimladwy. Roedd y parti bechgyn dan arweinyddiaeth Rebeca Thomas o Ben Llŷn, sy’n fyfyrwraig yn astudio Cymraeg a Cherddoriaeth. Daeth y bechgyn i’r trydydd safle gyda’u detholiad angerddol o ‘Cerddwn Ymlaen’ gan Dafydd Iwan.
Arweinydd y Côr eleni yw Huw Harvey o Lanfairpwll. Mae Huw wedi graddio yn y Gymraeg gyda Cherddoriaeth Boblogaidd a bellach yn dilyn cwrs ymarfer dysgu. Eleni, profodd lwyddiannau niferus yng nghystadleuaeth y corau, gyda chôr gyda hyd at 40 llais a chôr gyda thros 40 llais. Y darn gosod ar gyfer y côr hyd at 40 llais oedd ‘Geiriau Bychain’ gan Eric Jones a’r darn ar gyfer y côr dros 40 llais oedd ‘Heddiw yw’n Dyfodol’ gan Dafydd Iwan. Llwyddodd y corau i ddehongli’r darnau mewn ffyrdd a oedd yn gyffrous a theimladwy fel ei gilyydd gan gipio’r wobr gyntaf yn y ddwy gystadleuaeth, sy’n gamp a hanner. Gwnaethpwyd hynny yng nghwmni rhai o gorau ac arweinyddion gorau Cymru hefyd, sy’n dyrchafu llwyddiannau’r Aelwyd ymhellach.
Meddai Huw yn dilyn y buddugoliaethau, ‘Does gen i ddim geiriau i gyfleu fy hapusrwydd yn sgil ennill y dwbl. Mae’r côr wedi gweithio’n ddiwyd ers amser maith a rhaid diolch iddynt am eu hymroddiad. Rhaid inni hefyd ddiolch i’n cyfeilyddion, Catrin Llewelyn, Manon Gwynant ac Alistair Mahoney. Maen nhw’n gwneud ein gwaith ni fel arweinyddion yn haws o lawer.’
Yn ymateb i lwyddiannau niferus yr Aelwyd yn Eisteddfod yr Urdd eleni, meddai’r Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor (Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiad â’r Gymuned):
“Rydym ni yma ym Mhrifysgol Bangor yn hynod falch o lwyddiant Aelwyd JMJ yn Eisteddfod yr Urdd. Mae’r ffaith bod aelodau’r Aelwyd wedi llwyddo mewn cynifer o wahanol gystadlaethau yn tystio i’w hymroddiad a’u gwaith caled, heb sôn am eu doniau cynhenid. Mae’r bwrlwm diwylliannol hwn yn agwedd bwysig ar gymdeithas Gymraeg fywiog Prifysgol Bangor.”
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2018