Ymchwilwyr prifysgol yn gofyn am farn cleifion am feddyginiaeth
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gofyn am farn pobl yng Nghymru sydd yn cael tabledi ar bresgripsiwn at bwysedd gwaed, fel rhan o broject ymchwil yn Ewrop.
Mae’r Athro Dyfrig Hughes a’i gydweithwyr yn cynnal arolwg electronig fel rhan o broject Ewropeaidd sydd â’r nod o greu argymhellion ar sail tystiolaeth i lunwyr polisi Ewropeaidd er mwyn gwneud gwell defnydd o feddyginiaeth.
Meddai: “Adroddir yn eang mai dim ond tua 50% o’r meddyginiaethau a roddir ar bresgripsiwn sy’n cael eu cymryd fel yr argymhellir. Trwy ddysgu mwy am y rhesymau posib pam nad yw cleifion yn cymryd eu meddyginiaeth, byddwn yn ychwanegu at ddealltwriaeth o ymddygiad cleifion a bydd hyn yn gymorth i ddatblygu ffyrdd o wella defnydd cleifion o feddyginiaeth.”
“Cynhelir yr arolwg mewn 17 o wledydd, ac rydym yn gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosib yn cymryd rhan yng Nghymru.”
Gwahoddir aelodau’r cyhoedd sydd dros 18 oed, sydd â mynediad at y rhyngrwyd ac sy’n cael tabledi ar bresgripsiwn at bwysedd gwaed ar hyn o bryd i gymryd rhan yn yr arolwg electronig i rannu eu barn a’u profiadau o gymryd y tabledi hyn. Gallwch fynd i'r arolwg trwy http://abc.bangor.ac.uk ac mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Emily Fargher ar 01248 382709
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2011