Ymgeisydd PhD yn Ysgol Busnes Bangor wedi ei ddewis i wneud interniaeth ym Manc Lloegr
Dewiswyd Piotr Jan Danisewicz, myfyriwr PhD yn Ysgol Busnes Bangor, i ddilyn rhaglen interniaeth boblogaidd ym Manc Lloegr. Bydd Piotr, sydd yn nhrydedd flwyddyn ei astudiaethau PhD, yn dechrau ei interniaeth ar ddechrau'r haf am gyfnod o dri mis. Bydd cymryd rhan yn y rhaglen interniaeth gystadleuol iawn hon yn golygu y gall cydweithio gydag economegwyr ymchwil ym Manc Lloegr yn eu Cyfarwyddiaeth Sefydlogrwydd Ariannol ar broject am yr effeithiau rhyngwladol a gaiff ymddygiad benthyca banciau.
Mae pwyllgor thesis PhD Piotr yn cynnwys Dr Danny McGowan, Dr Enrico Onali, a'r Athro Klaus Schaeck. Roedd Piotr yn falch iawn o dderbyn y newyddion da o Lundain gan ddweud, "Mae'n wobr wych am y gwaith caled yn ystod fy PhD. Byddaf yn gwneud fy ngorau i fanteisio i'r eithaf ar yr interniaeth hwn. Gan fod y rhan fwyaf o fy ymchwil yn gysylltiedig â materion polisi macroddarbodus, mae'r interniaeth hwn yn rhoi'r cyfle i mi fod yng nghanol y byd gwneud polisïau a gobeithio y bydd yn sail wybodaeth i fy rhaglen ymchwil. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn at fod ym Manc Lloegr".
Meddai cadeirydd pwyllgor PhD Piotr, yr Athro Klaus Schaeck, wrth longyfarch Piotr ar ei gyflawniad gwych, "Mae Piotr yn ymgeisydd PhD eithriadol. Mae'r ffaith ei fod wedi gwneud argraff dda ym Manc Lloegr yn adlewyrchiad rhagorol o'i sgiliau a'i allu i wneud ymchwil sy'n amserol, yn berthnasol i’r broses gwneud polisïau ym myd bancio, ac mae ar flaen y gad o ran y dulliau a ddefnyddir i astudio themâu pwysig mewn bancio. Hefyd, mae'r ffaith ei fod wedi cael ei ddewis yn dangos bod myfyrwyr PhD yn Ysgol Busnes Bangor yn cael hyfforddiant o ansawdd uchel. ”
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2014