Ysgol Busnes Bangor yn Penodi Pennaeth Newydd
Penodwyd yr Athro John Thornton, Athro Cyllid Byd-eang, fel Pennaeth newydd Ysgol Busnes Bangor.
Mae’n cymryd drosodd o’r Athro Phil Molyneux, sy’n rhoi'r gorau i'r swydd er mwyn canolbwyntio ar ei rôl fel Pennaeth y Coleg Busnes, Gwyddorau Cymdeithas a’r Gyfraith.
Cwblhawyd y triawd o benodiadau mewnol gan yr Athro Kostas Nikolopoulos, sy’n cymryd lle’r Athro Thornton fel Cyfarwyddwr Ymchwil y Coleg.
Mae dyrchafiad yr Athro Thornton yn dod wrth i’r Ysgol Busnes dechrau ar fenter newydd a chyffrous, sef Canolfan Llundain Ysgol Busnes Bangor, a fydd yn derbyn ei charfan gyntaf o fyfyrwyr ym Medi 2011. Yn ddiweddar fe gyhoeddwyd Elizabeth De-Ben Rockson fel Rheolwraig y Canolfan yn y penodiad cyntaf i’w wneud yn Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2011