Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn derbyn grant tuag at Symposiwm Cynllunio Ieithyddol
Mae Dr Rhian Hodges a Dr Cynog Prys wedi derbyn grant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol tuag at Symposiwm Cynllunio Ieithyddol gyntaf yr Ysgol.
Bydd ‘Tu Hwnt i Addysg: Dyfodol Cynllunio Ieithyddol’ yn cael ei gynnal ym Mangor ar 8fed Mawrth 2013. Gobeithiwyd gwahodd ysgolheigion ac ymarferwyr cynllunio ieithyddol o Gymru, Prydain, Ewrop a gwledydd rhyngwladol, yn ogystal â chynnig elfen Gymraeg ganolog a hollbwysig i’r symposiwm.
“Dyma gyfle hollbwysig i feithrin diddordeb ein myfyrwyr israddedig sy’n astudio modiwlau Cynllunio Ieithyddol a hefyd datblygu cyfleoedd i’r myfyrwyr MA Polisi a Chynllunio Ieithyddol a PhD sydd wrthi’n cynhyrchu ymchwil hollbwysig yn y maes ar hyn o bryd”, meddai Dr Rhian Hodges.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2012