Dewch i ddarganfod mwy am y meysydd pwnc yr ydym yn eu cynnig yn Ysgol Busnes Bangor a'r cyrsiau sydd ar gael i fyfyrwyr israddedig.
Dewch i ddarganfod mwy am y meysydd pwnc yr ydym yn eu cynnig yn Ysgol Busnes Bangor a'r cyrsiau sydd ar gael i fyfyrwyr israddedig.
Cyrsiau gyda Blwyddyn Sylfaen
Mae ein cwrsiau gyda blwyddyn sylfaen yn gyrsiau pedair blynedd gyda blwyddyn sylfaen integredig sy'n arwain at yr un cymhwyster â'n graddau anrhydedd tair blynedd. Fe'i cynlluniwyd yn benodol ar gyfer y rhai sydd eisiau astudio ar lefel gradd ond nad ydynt efallai'n cwrdd â'r gofynion mynediad neu sydd â chymwysterau llai traddodiadol.
Astudio neu Weithio Dramor
Mae astudio neu weithio dramor fel rhan o'ch gradd yn gyfle bythgofiadwy. Trwy dreulio amser mewn gwlad arall, byddwch yn profi diwylliannau newydd, yn gwneud ffrindiau newydd, yn ennill persbectif byd-eang ar eich pwnc ac yn dysgu iaith newydd. Gorau oll, byddwch yn gwella'ch cyflogadwyedd trwy ddatblygu sgiliau newydd a dod yn fwy hyderus ac annibynnol. Darganfyddwch fwy am Astudio Dramor.
Amgylchedd Dysgu Ardderchog
Rydym yn rhoi pwyslais ar gysylltiadau cyfeillgar ac anffurfiol rhwng y staff a’r myfyrwyr, fel y ceir amgylchedd dysgu cynhaliol, deniadol a grymus. Un o fanteision astudio gyda ni yw y gellwch wneud cyswllt personol yn rhwydd gydag aelodau staff, sydd bob amser yn barod ac yn fodlon eich cynorthwyo ag unrhyw drafferthion y dewch ar eu traws yn ystod eich astudiaethau. Rydym yn annog staff i sefydlu perthynas waith ragorol gyda’u myfyrwyr, yn ystod eu gradd gyda ni, ac ar ôl iddynt ei chwblhau’n llwyddiannus. Yn wir, mae nifer o’n graddedigion yn dychwelyd i Fangor yn ddiweddarach yn eu gyrfa i barhau gyda’u hastudiaethau ar un o’n rhaglenni ôl-raddedig neu ymchwil, a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Lleoliad Gwych
Os ydych yn adnabod Bangor a Gogledd Cymru, byddwch hefyd yn gwybod ein bod wedi’n lleoli yn un o ardaloedd prydferthaf y Deyrnas Unedig, lle caiff ein myfyrwyr fywyd o ansawdd a chyfoeth o brofiadau heb eu hail, oddi mewn ac oddi allan i’r dosbarth.