Gair I Gall
1) Canllawiau To Bach
Mae To Bach yn rhaglen rhad ac am ddim sy’n gwneud y gwaith o osod acenion a nodau ar gyfer y Gymraeg yn ddidrafferth. Drwy ddefnyddio'r bysell Alt Gr mae modd gosod to bach ar ben y llafariaid (â, ê, î, ô, û, ŵ, ŷ) ac acenion amrywiol (á è ï ac ati).
Bysell | Symbol |
alt gr & o | ô |
alt gr & A | Â |
alt gr & w | ŵ |
alt gr & / & e | é |
alt gr & " & i | ï |
2) Pecyn Cymraeg ar gyfer Office
Hoffech chi weld eich rhaglenni yn Gymraeg? Gallwch lwytho'r Pecyn Cymraeg ar gyfer Office 2016 i lawr yn rhad ac am ddim. Mae pecynnau Cymraeg ar gyfer fersiynau cynharach o Office ar gael hefyd.
3) Pecyn Cymraeg ar gyfer Windows
Hoffech chi Windows Cymraeg ar eich cyfrifiadur? Gallwch lwytho'r Pecyn Cymraeg ar gyfer Windows i lawr yn rhad ac am ddim. Mae pecynnau Cymraeg ar gyfer fersiynau cynharach o Windows ar gael hefyd.
4) Cyngor Cysill
- Sut i ddefnyddio Cysill i wirio dogfen Word
- Pan fydd Cysill yn gwirio eich gwaith, gwasgwch F5 i agor y ffenest 'Gwirio Gair'.
- Pan fydd Cysill yn gwirio eich gwaith, gwasgwch F6 i agor ffenest y Thesawrws.
- I ddefnyddio Cysgill mewn rhaglenni eraill - agorwch Cysill, dewiswch eich testun yn y rhaglen arall a gwasgu Ctrl+Alt+W
5) Cyngor Cysgeir
- Chwilio am air yn Cysgeir
- Defnyddio Cysgeir o fewn Microsoft Word
- Newid rhyngwyneb Cysgeir
- I gynyddu maint y ffont gwasgwch F10. I'w leihau gwasgwch F9.
- I ddefnyddio Cysgeir mewn rhaglenni eraill - agorwch Cysgeir, dewiswch eich testun yn y rhaglen arall a gwasgu Ctrl+Alt+G