#Bedwyr20
Wedi'i sefydlu ym mis Awst 1996, mae Canolfan Bedwyr yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 yn ystod 2016/17. Canolfan ym Mhrifysgol Bangor sy'n darparu gwasanaethau, ymchwil a thechnoleg ar gyfer y Gymraeg ydy Canolfan Bedwyr. Cafodd ei henwi ar ôl y diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones a'i hagor yn swyddogol gan ei weddw, Mrs Eleri Wynne Jones ar 1 Awst 1996.
Gyda Dr Cen Williams yn Gyfarwyddwr ac Eleri Jones yn Swyddog Gweinyddol, dim ond dau aelod o staff oedd gan y ganolfan yn ei dyddiau cynharaf ac roedd ei gwaith yn canolbwyntio'n bennaf ar ddarparu cyrsiau gloywi iaith i staff a myfyrwyr a datblygu polisi dwyieithog y Brifysgol.
Dros y blynyddoedd, mae gwaith y ganolfan wedi ehangu i gynnwys cyfieithu, terminoleg, meddalwedd, technolegau iaith a chynllunio iaith yn ei holl amrywiaeth. Dros y blynyddoedd hefyd, yn ogystal ag ymateb i anghenion y Brifysgol ei hun, mae ganolfan hefyd wedi bod yn rhannu ei harbenigeddau gyda llu o gyrff, sefydliadau a chwmnïau allanol. Erbyn heddiw, mae'r ganolfan yn cyflogi dros ugain aelod o staff.
I ddathlu ei phen-blwydd yn ugain oed, mae'r ganolfan yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd rhwng Awst 2016 ac Awst 2017. Cewch y manylion llawn ar y wefan hon.