Seminar Ymchwill 24 Mehefin 2022 -“Datblygiad a Gwerthusiad Adnabod Lleferydd ar gyfer y Gymraeg.”
Annwyl bawb,
Bydd ein seminar nesaf yn cael ei gynnal am 3pm ddydd Gwener y 24ain o Fehefin yn ystafell seminar Duncan Tanner (39 Ffordd y Coleg).
Y siaradwr gwadd fydd Dewi Bryn Jones o’r Uned Technolegau Iaith a theitl ei gyflwyniad fydd “Datblygiad a Gwerthusiad Adnabod Lleferydd ar gyfer y Gymraeg.”
Traddodir y cyflwyniad yn Gymraeg ond gallwch weld papur Saesneg ganddo ar y pwnc yn nhrafodion Gweithdy Technolegau Iaith Celtaidd LREC sydd newydd ei gyhoeddi ar http://lrec-conf.org/proceedings/lrec2022/workshops /CLTW4/index.html
Cofiwch hefyd am yr awr goctels rhwng 4 a 5 o’r gloch yn dilyn y digwyddiad. Croeso i bawb i hwnnw hefyd, mae’n ffordd dda o rwydweithio, hyd yn oed os nad ydych chi wedi gallu dod i’r seminar cyn hynny!
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2022