Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Noder: nid yw hwn yn gwrs cyfrwng Cymraeg ond bydd darlithwyr sy'n siarad Cymraeg ar gael i sgwrsio am eich gwaith ac mae hefyd yn bosib cyflwyno aseiniadau yn Gymraeg.
Gellir newid y byd trwy roi meddylfryd dylunio ar waith. Mae'r cwrs hwn yn cynnig llwybr i unigolion sy'n dymuno arwain ym maes arloesi trwy gyfrwng creadigrwydd a meddylfryd dylunio cymhwysol, mewn amrywiaeth o ddiwydiannau cysylltiedig.
Ceir sawl diffiniad o'r gair 'arloesi' a p’un ai eich bod yn dewis ei ddiffinio fel cam neu naid, arloesi yw ffordd newydd o wireddu gwerth. Gallai hyn fod trwy gynnyrch neu wasanaeth newydd, newid sefydliadol, prosesau newydd, hwyluso arfer creadigol neu bennu cyfeiriad strategol ac arwain arno. Mae ar y byd angen pobl sy'n gallu ymwneud â thirwedd cynyddol newidiol anghenion cymdeithasol, busnes a chynaliadwyedd, sydd wedi eu harfogi â meddylfryd dylunio a dulliau cydweithredol, i greu gwir werth.
Mae sgiliau meddylfryd dylunio yn hynod yn drosglwyddadwy a gellir eu defnyddio i ddeall a rhoi sylw i amrywiaeth o heriau sy'n ymwneud â phobl, ac mae ganddynt botensial i beri newid sylweddol. Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i lywio, rhwyfo a siglo'r cwch yng nghyd-destun gweithgareddau arloesi cymhwysol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r cwrs yn cael ei gynnal dros ddau semester astudio, sy'n cynnwys projectau sy'n seiliedig ar ddylunio; astudiaeth academaidd; a lleoliad diwydiannol proffesiynol sy'n canolbwyntio ar ymchwil, gan arwain at broject ymchwil annibynnol, terfynol. Gall y project ymchwil terfynol ddilyn tri llwybr, gan ganolbwyntio ar ddarpariaeth fasnachol, entrepreneuriaeth neu ymgynghoriaeth fasnachol, a hynny ar sail dyheadau gyrfaol a maes diddordeb yr unigolyn.
Rhennir y modiwlau cynnwys rhwng modiwlau craidd, sy'n cynnig dealltwriaeth fanwl o'r offer a thechnegau a ddefnyddir i roi syniadau dylunio arloesol ar waith, tra bod modiwlau dewisol yn cynnig cyfleoedd i ddilyn meysydd cysylltiedig o ddiddordeb mewn mwy o fanylder. Rydym yn ymdrechu i ddarparu amgylchedd addysgu a dysgu rhagorol ar eich cyfer trwy ddefnyddio adnoddau dysgu, technoleg, cyfryngau ac amgylcheddau arloesol, a thrwy amrywiaeth eang o ddulliau asesu.
Modiwlau Craidd
- Meddylfryd Dylunio - Proses a Hwyluso
- Meddylfryd Dylunio - Strategaeth
- Dulliau Ymchwil ar gyfer Dylunio
- Project Dylunio
- Traethawd Hir MSc (gyda llwybrau ar sail ymchwil, arteffactau ac adroddiad, a chynllunio strategol)
Modiwlau Dewisol
- CAD Parametrig gyda Modelu Arwyneb Uwch
- Dadansoddiad Elfen Feidraidd CAD ar gyfer Diwydiant
- Graffeg Ddigidol Gymhwysol
- Hwb a Newid Ymddygiad
- Seicoleg Defnyddwyr: Theori
- Seicoleg Defnyddwyr Gymhwysol
Gofynion Mynediad
Yn ddelfrydol, dylai ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth mewn pwnc cysylltiedig fel Dylunio, Seicoleg neu Fusnes, neu gymwysterau/profiad cyfwerth. Dylai ymgeiswyr hefyd fod â chefndir neu dystiolaeth o ddiddordeb mewn dylunio, neu weithgaredd cysylltiedig â dylunio.
IELTS: 6.5
Gyrfaoedd
Bwriad y Radd Meistr mewn Dylunio Arloesi Cymhwysol yw gwella eich rhagolygon a'ch cyfleoedd gyrfa, gan gynnig yr hyblygrwydd i addasu'r cwrs i'ch maes chi neu i ddiwydiant sydd o ddiddordeb i chi. Gall myfyrwyr ddewis astudio naill ai'n llawn-amser neu'n rhan-amser, a all gynnwys astudio ochr yn ochr â chyflogaeth mewn swydd gysylltiedig. Bydd myfyrwyr sy'n graddio o'r cwrs Meistr yn gallu ymgymryd â swyddi arwain, rheoli ac ymarfer mewn meysydd sy'n gysylltiedig â dylunio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau, yn ogystal â dilyn llwybrau entrepreneuraidd.
Ymchwil/Dolenni Diwydiannol
Mae gan yr academyddion sy'n gysylltiedig â'r rhaglen hon gysylltiadau helaeth â chwmnïau dylunio a gweithgynhyrchu yn fyd-eang, a chânt eu defnyddio i sicrhau bod modiwlau'n berthnasol i swyddi modern dylunio arloesi, ac fel sylfaen i ddatblygiad proffesiynol trwy leoliadau gwaith, ac i hyrwyddo meddylfryd arloesol sy'n canolbwyntio ar fasnach.