Os ydych yn ystyried dechrau cwrs ôl-raddedig, efallai y gallwch wneud cais am gyllid gan y Llywodraeth i’ch helpu gyda’ch costau byw a ffioedd dysgu.
Bydd eich hawl am gyllid ôl-raddedig sydd yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw fel arfer cyn i chi ddechrau eich cwrs ôl-raddedig.
Sylwch NAD yw myfyrwyr ôl-raddedig yn cael Benthyciad Ffioedd Dysgu ar wahân. Eich cyfrifoldeb chi felly fydd talu eich ffioedd dysgu, y gellir eu talu mewn un taliad neu mewn rhandaliadau yn ystod y flwyddyn academaidd. Cliciwch ar y ddolen hon am fanylion ein dulliau talu. https://www.bangor.ac.uk/cy/cyllidmyfyrwyr/ol-radd/talu
Os ydych yn ystyried cwrs TAR cliciwch yma am wybodaeth gyllid: https://www.bangor.ac.uk/studentservices/moneyadvice/pgce.php.cy
I ddarganfod a ydych yn gymwys ar gyfer cyllid ôl-raddedig, cliciwch ar y rhanbarth yr ydych yn byw ynddo fel arfer:
- O 1 Awst 2023, gallai myfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru (a’r rheini o’r UE sy’n astudio mewn sefydliad yng Nghymru) gael yr hawl i gyfuniad o fenthyciad a grant fel cyfraniad at gostau tra’n astudio cwrs gradd meistr ôl-radd.
- Cyfanswm y cymorth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys yw £18,950.
- Cyrsiau rhan-amser – dyrennir y cymorth dros nifer y blynyddoedd y dilynir y cwrs. Caiff lefel y cymorth ei gapio ar gyfer pob blwyddyn academaidd; er enghraifft, £18,950 ar gyfer cwrs blwyddyn, £9,347 y flwyddyn ar gyfer cwrs dwy flynedd, a £4,737.50 y flwyddyn ar gyfer cwrs pedair blynedd. Mae cyrsiau amser llawn sy’n para blwyddyn a dwy flynedd yn gymwys i gael cymorth. Mae cyrsiau rhanamser sy’n para hyd at bedair blynedd yn gymwys i gael cymorth.
Mae'r porth i wneud cais ar agor
- O 1 Awst 2023, gallai myfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, a’r rheini o’r UE sy’n astudio mewn sefydliad yng Nghymru, gael yr hawl i gymorth. Bydd modd i fyfyrwyr cymwys gael benthyg hyd at £28,655, fel cyfraniad at eu costau, dros gyfnod y rhaglen ddoethuriaeth.
- Gall y cyrsiau fod yn rhai amser llawn neu’n rhanamser, rhwng tair ac wyth blynedd o hyd. Gwneir y taliadau dros nifer blynyddoedd y rhaglen ddoethuriaeth.
- Ni fydd y rheini sy’n cael cyllid myfyrwyr gan unrhyw un o saith Cyngor Ymchwil y DU (cyllid llawn neu ffioedd yn unig) yn gymwys i gael benthyciad.
- Ni fydd y rheini sy’n cael ffurfiau uniongyrchol eraill ar gymorth y Llywodraeth tuag at gostau cynhaliaeth a ffioedd, gan gynnwys unrhyw gyfraniadau cyflog neu ffioedd a ddarperir gan y GIG at ddibenion cyrsiau doethuriaeth, a chynllun KESS 2, yn gymwys chwaith.
- Mi fydd porth gais yn cael ei agor yn fuan: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/myfyrwyr-ol-raddedig/cwrs-doethurol-ôl-raddedig.aspx