Os ydych wedi bod yn chwilio am ffordd i dalu am astudiaethau ôl-raddedig - ysgoloriaethau a bwrsariaethau prifysgol, cyllid gan gynghorau ymchwil ac ati - ac wedi methu cael gafael ar gyllid, mae'n hawdd meddwl mai dyna ddiwedd y mater ac nad oes cyllid ar gael.
Ond nid yw hynny bob amser yn wir. Mae amryw o sefydliadau a allai eich helpu, hyd yn oed os nad yw'n amlwg yn y lle cyntaf eu bod yn cyllido astudiaethau. Gellir dosbarthu'r sefydliadau fel a ganlyn:
- Elusennau/sefydliadau elusennol
- Cwmnïau mawr yn y sector preifat
- Busnesau bach a chanolig
- Eich cyflogwr chi
Yn aml iawn, nid yw'r sefydliadau hyn yn clustnodi cyllid i brojectau ôl-raddedig nac yn eu hysbysebu'n amlwg. Chi fel darpar fyfyriwr ôl-raddedig ddylai fynd at y sefydliadau hyn a gofyn am gefnogaeth ariannol.
Ond nid ydynt yn debygol o dalu am eich astudiaethau ôl-raddedig yn eu cyfanrwydd. Dyna yw breuddwyd pob myfyriwr, ond yn anffodus nid yw'n digwydd yn aml iawn oni bai eich bod yn cael eich cyllido gan sefydliad addysg uwch.
Ond mae llawer o fyfyrwyr wedi llwyddo i gael ychydig o gyllid gan un neu fwy o sefydliadau. £200 yma, £500 acw - mae i gyd yn werth ei gael os ydych yn barod i fynd allan i chwilio amdano. Ond mae hynny'n gofyn am waith caled.
Elusennau
Bydd rhaid i chi ddod o hyd i'r math o elusen sydd fwyaf tebygol o'ch helpu. Mae dwy ffordd o wneud hyn:
- Elusennau sy'n gwneud gwaith sy'n gysylltiedig â'ch maes pwnc neu ymchwil.
- Elusennau sy'n gweithio'n uniongyrchol mewn maes sy'n gysylltiedig â'ch amgylchiadau personol. Gall yr amgylchiadau hynny fod yn gysylltiedig ag iechyd, anabledd, y lluoedd arfog, ethnigrwydd, rhagoriaeth ym maes chwaraeon, y Gymanwlad, gofalu/gofalwyr, gwlad eich geni, anableddau dysgu.
Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i elusen/elusennau addas, yna mae'n rhaid i chi gysylltu â hwy. Ffoniwch hwy, anfonwch e-bost ac ysgrifennwch atynt yn dweud pam bod eich astudiaeth, eich ymchwil neu eich amgylchiadau yn haeddu cefnogaeth ganddynt. Mae'n siŵr y cewch amryw o lythyrau gwrthod cwrtais, ond mae'n werth dal ati er mwyn yr un ateb sy'n gofyn am fwy o wybodaeth.
Cwmnïau mawr yn y sector preifat
Cwmnïau mawr cenedlaethol neu ryngwladol yw'r rhain sydd fel rheol yn cyflogi ymhell dros 250 o bobl ac sydd â throsiant gwerth dros £50m. Mae'r cwmnïau hyn yn ymwneud ag amrywiaeth eang iawn o gynnyrch neu wasanaethau ond maent i gyd yn chwilio am ddau beth: dealltwriaeth ac arbenigedd. Os gallwch lwyddo i'w hargyhoeddi y bydd eich astudiaeth/ymchwil yn arwain at well dealltwriaeth neu arbenigedd mewn maes sy'n allweddol i'w twf, datblygiad neu rwydwaith mewnol, yna mae'n bosib y byddent yn fodlon buddsoddi ynoch chi.
Busnesau bach a chanolig
Mae cwmnïau yn y categori hwn yn cynnwys cwmnïau gyda pherchennog a dim gweithwyr a chwmnïau mawr sy'n cyflogi hyd at 250 o bobl. Mae trosiant y cwmnïau hyn yn llai hefyd - ac weithiau'n llawer llai - na throsiant cwmnïau mawr. Ond unwaith eto, chi fydd rhaid darbwyllo'r cwmni o effaith cadarnhaol eich gwaith ar eu busnes. Mae'n werth cofio mai gweledigaeth ranbarthol sydd gan lawer o fusnesau bach a chanolig, felly hyd yn oed os oes goblygiadau pellgyrhaeddol ynghlwm â'ch ymchwil, meddyliwch sut gellir ei ddefnyddio ar raddfa leol neu ranbarthol.
Cofiwch gysylltu â busnesau bach a chanolig a chwmnïau mwy mewn dull brwdfrydig a phroffesiynol ac egluro'r canlynol:
- pwy ydych chi;
- testun eich astudiaeth/ymchwil;
- sut allwch eu helpu hwy;
- sut allant eich helpu chi.
Hyd yn oed os na chewch gyllid ganddynt, mae'n bosib y llwyddwch i wneud cysylltiadau pwysig iawn yn y diwydiant - a bydd hynny'n werthfawr dros ben i chi pan fyddwch yn chwilio am waith.
Eich cyflogwr chi
Os ydych mewn swydd gyflogedig ar hyn o bryd, efallai eich bod wedi gweld cwrs ôl-raddedig fydd yn gwella eich gallu i wneud eich gwaith. Mewn rhai achosion, os gellir ystyried y cwrs fel hyfforddiant neu fel datblygiad proffesiynol parhaus, gall eich cyflogwr gytuno i dalu rhywfaint o'ch ffioedd dysgu.
Yn olaf, ystyriwch astudio'n rhan-amser.
Efallai nad ydych yn credu bod cyfuno astudiaeth ran-amser gyda swydd gyflogedig yn ffordd dda o ennill gradd Meistr, er enghraifft. Ond heblaw am y ffaith mai dyna efallai fydd yr unig ffordd bosib i chi, mae manteision amlwg o astudio'n rhan-amser gan fod gennych fwy o amser i astudio, darllen, meddwl a datblygu eich syniadau yn ystod y ddwy flynedd na fyddai gennych yn ystod blwyddyn yn unig.