Ymunwch â ni am Wythnos o Ddysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor!
Dyddiad: 27-29 Awst, 2024
Lleoliad: Neuadd Reichel, Campws Prifysgol Bangor, LL57 2TR
Mae Prifysgol Bangor, ar y cyd â Grŵp Llandrillo Menai, yn falch o'ch gwahodd i'r Wythnos o Ddysgu Gydol Oes! Mae'r digwyddiad hwn ar agor i bawb, p'un a ydych yn aelod o'r gymuned sy'n awyddus i ddysgu rhywbeth newydd, neu'n rhywun sy'n chwilio am gyfleoedd datblygiad proffesiynol neu hyfforddiant. Mae croeso cynnes hefyd i staff a myfyrwyr presennol Prifysgol Bangor ymuno â ni.
Caiff y cyrsiau byr eu cyflwyno gan arbenigwyr academaidd, a byddant yn cynnig cyfle unigryw i ehangu eich gwybodaeth mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar. Yn ogystal, mwynhewch baned o de neu goffi am ddim wrth i chi ddysgu!
Bydd amserlen ein cyrsiau byr ar gyfer yr wythnos yn cynnwys:
Sesiwn |
Dyddiad |
Amser |
Hanes meddygaeth Cymru | 27 Awst | 10:00-12:00 |
Cyflwyniad i waith cymdeithasol (sesiwn Gymraeg) |
27 Awst |
12:00-13:00 |
Gwneud y mwyaf o LinkedIn (dwyieithog) |
27 Awst |
14:00-16:00 |
Tatŵs a hunaniaeth (dwyieithog) |
28 Awst |
10:00-12:00 |
Cyflwyniad i waith cymdeithasol (sesiwn Saesneg) |
28 Awst |
12:00-13:00 |
Y gyfraith mewn perthynas â chyplau sy'n gwahanu (sesiwn Saesneg) |
28 Awst |
14:00-16:00 |
Cyflwyniad i gyfraith trosedd (sesiwn Saesneg) |
29 Awst |
10:00-12:00 |
Pam mae darllen ac ysgrifennu yn anodd i rai plant? Cyflwyniad i ddeall a chefnogi plant ag anawsterau darllen ac ysgrifennu (dwyieithog) |
29 Awst |
14:00-15:30 |
Beth yw cerddoriaeth yn y gyfraith? (sesiwn Saesneg) |
29 Awst |
16:00-17:00 |
Cyflwyniad i Seicoleg (sesiwn Saesneg) |
29 Awst |
17:00-18:00 |
Sut i gymryd rhan:
Mae croeso i chi gofrestru ar gyfer un sesiwn neu bob sesiwn. Fodd bynnag, bydd angen i chi gofrestru i fynychu. Cliciwch ar y ddolen ar y dde i sicrhau eich lle ac i ddysgu mwy am y sesiynau unigol. Neu, gallwch hefyd gadw eich lle trwy anfon e-bost at: cyrsiaubyr@bangor.ac.uk
Ymunwch â ni am wythnos o ddysgu a mwynhau! Edrychwn ymlaen at eich gweld ddiwedd mis Awst.
*RYDYM YN CROESAWU COFRESTRIADAU FUNUD OLAF.