Elen Bonner (Prifysgol Bangor)
Crynodeb
Mae ystadegau diweddar yn dangos bod y Gymraeg dan bwysau yn ei chadarnleoedd, gydag allfudo siaradwyr Cymraeg ifanc yn bryder i gynllunwyr ieithyddol. Mae ymchwil ar y pwnc hwn yn gyfyngedig, gydag astudiaethau hanesyddol o allfudo gwledig yn canolbwyntio ar fudo economaidd, tra bod gwaith mwy diweddar yn amlygu ffactorau diwylliannol. Fodd bynnag, ychydig iawn o astudiaethau sy'n cydnabod y gallai grwpiau gwahanol fod â blaenoriaethau amrywiol wrth wneud penderfyniadau mudo.
Eithriad prin yw teipoleg Cooke and Petersen (2019), sy'n archwilio penderfyniadau pobl ifanc o ynysoedd gwledig mewn perthynas ag addysg, cyflogaeth a lleoliad. Mae'r papur hwn yn addasu eu fframwaith i'r cyd-destun lle siaradir Cymraeg. Mae 60 o gyfweliadau lled-strwythuredig gyda siaradwyr Cymraeg 18-40 oed a wnaeth benderfynu aros, gadael neu ddychwelyd i gadarnleoedd y Gymraeg yn siapio teipoleg newydd sy'n cynrychioli'r blaenoriaethau amrywiol sy'n dylanwadu ar benderfyniadau mudo. Y canlyniad yw teipoleg gyda 23 chategori gwahanol sy’n darparu offeryn gwerthfawr i lunwyr polisi dargedu ymyriadau yn fwy effeithiol.
Fel rhan o brosiect a ariennir gan Arfor, sef cynllun sydd â’r nod o hyrwyddo'r economi a'r Gymraeg, mae'r deipoleg hon wedi'i mireinio ymhellach i 12 categori ymarferol. Mae'r papur hwn yn olrhain datblygiad y deipoleg o ymchwil academaidd i offeryn i'w gymhwyso'n ymarferol wrth gefnogi'r Gymraeg.