Dr Cristiano Palego,
Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor
Dyddiad: Dydd Mercher, 30 Hydref 2024
Amser: 12:00pm – 1pm
Lleoliad: Prif Ddarlithfa Stryd y Deon
Cyswllt: Yr Athro Jonathan Roberts
Cyfres o ddarlithoedd am amrywiol bynciau sy’n ymwneud â Chyfrifiadura, Peirianneg a Dylunio yw ‘Ymgysylltu’ wedi eu trefnu gan Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Prifysgol Bangor.
Mae ysgogiad biodrydanol yn ffordd newydd o ddefnyddio trydan i helpu i drin clefydau megis canser a helpu'r corff i wella. Mae gwyddonwyr yn dysgu sut i ddefnyddio pylsiau bach o egni i dargedu celloedd canser neu helpu meinweoedd i dyfu'n ôl.
Bydd y sgwrs hon yn egluro sut y gall gwahanol fathau o egni, megis tonnau neu feysydd, newid sut mae celloedd yn ymddwyn, gan eu helpu i dyfu neu ymateb yn well i driniaethau. Mae gwyddonwyr yn profi'r syniadau hyn ar fodelau 3D o ganser i weld sut maen nhw'n gweithio mewn bywyd go iawn. Y nod yw defnyddio'r dull hwn i wneud triniaethau newydd sy'n cyfuno bioleg, ffiseg a pheirianneg i wella gofal iechyd yn y dyfodol. Bydd ffocws penodol ar ein gwaith gydag organoidau canser 3D (adeileddau a dyfir mewn labordy sy'n dynwared ymddygiad a nodweddion tiwmorau gwirioneddol), a ddefnyddir i fodelu ymatebion biolegol cymhleth o dan amodau ysgogi gwahanol. Byddwn yn trafod sut y gall cyflenwi ynni wedi'i dargedu fodiwleiddio twf celloedd, gwella effeithiolrwydd cyffuriau, a hyrwyddo canlyniadau atffurfiol, gan agor llwybrau newydd o ran therapïau yn y dyfodol.
Derbyniodd Cristiano Palego radd MEng. mewn Electroneg o Brifysgol Perugia, Yr Eidal, yn 2003, a Ph.D. mewn Microdonnau ac Optoelectroneg o Brifysgol Limoges, Ffrainc, yn 2007. Bu yn wyddonydd ymchwil ym Mhrifysgol Lehigh, UDA (2007-2017). Ymunodd â Phrifysgol Bangor fel Uwch Ddarlithydd yn 2013. Ymhlith ei ddiddordebau mae micro/nanotechnoleg ac ymchwil biofeddygol yn ogystal ag araeau antenau, cynaeafu ynni a dysgu peirianyddol. Mae Cristiano wedi datblygu technoleg labordy-ar-sglodyn sy’n gydnaws â CMOS ar gyfer chwiliedyddion tonnau milimetr ac i ysgogi celloedd fel rhan o fentrau a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a Horizon 2020. Mae ei grŵp hefyd wedi datblygu’r cynaeafwr ynni piesodrydanol cyntaf ar gyfer telemetreg radio pryfed mwyaf economaidd-fuddiol y byd: y wenynen fêl. Mae bellach yn mynd ar drywydd bioelectroneg hyblyg a gwisgadwy sy’n synhwyro ac yn ysgogi yn y ffordd leiaf ymwthiol posibl mewn gofal iechyd, ac ar gyfer monitro amgylcheddol a chymwysiadau technoleg-amaeth.