Universal Basic Income: A Potential Solution to Climate Change.
Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithas
Digwyddiad gweithdy/trafodaeth/seminar fydd hwn y gellir ei gynnal ar-lein ac yn y cnawd. Bydd y digwyddiad mewn dwy ran; yn gyntaf cyflwyniad/trafodaeth gan yr ymchwilwyr ac yna sesiwn cwestiwn ac ateb. Bydd y rhan cwestiwn ac ateb yn caniatáu i'r mynychwyr ofyn cwestiynau am y pwnc a drafodwyd gan yr awduron.
Bydd y digwyddiad hwn yn trafod yn feirniadol y syniad o Incwm Sylfaenol Cyffredinol gan ganolbwyntio ar sut y gallai hynny helpu i ddatrys newid yn yr hinsawdd, sy’n broblem gymdeithasol fyd-eang. Yn fyr: Mae llywodraethau ledled y byd yn cyhoeddi bod "argyfwng hinsoddol ac amgylcheddol" i dynnu sylw at y ffyrdd anghynaladwy y mae pobl wedi newid y ddaear dros ychydig o genedlaethau. Mae cyflymder cynhesu byd-eang wedi gohirio dyfodiad yr oes iâ nesaf ac mae llywodraethau'r byd wedi datgan argyfwng hinsawdd. Mae gwyddonwyr cymdeithasol wedi dadansoddi polisïau a gynlluniwyd ar gyfer yr Anthroposen ac mae ymchwil i gynaliadwyedd byd natur yn canolbwyntio ar fesurau gorchymyn a rheoli megis trethi, cymorthdaliadau a dirwyon. Ymhlith yr hen bolisïau hyn a ystyrir fel polisïau posibl i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a chynhesu byd-eang mae Incwm Sylfaenol Cyffredinol. Felly, ai Incwm Sylfaenol Cyffredinol yw’r ateb i newid hinsawdd? Sut mae gweithredoedd a gweithgarwch dynol yn newid yr hinsawdd?
Ymunwch â ni wrth i ni archwilio'r pwnc hwn yn feirniadol er mwyn achub ein planed.
Stella Gmekpbi Gabuljah o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor.
Dr Hefin Gwilym o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor.