Mae’n debyg eich bod yn disgwyl i'r brifysgol fod yn wahanol i'r ysgol ond efallai ddim yn siwr iawn sut. Y prif wahaniaeth ydi y byddwch chi llawer iawn mwy annibynnol. Dyma sut:
Yn wahanol i athrawon bydd darlithwyr yno i roi ychydig o wybodaeth i chi, dangos y trywydd i chi ac yna eich gadael i wneud y gweddill eich hun.
Bydd disgwyl i chi wneud gwaith ymchwil eich hun a dod i wybod mwy am eich pwnc yn eich amser eich hun.
Byddwch yn cael Tiwtor Personol fydd yn cynnig arweiniad a chymorth i chi efo’ch gwaith dim ond i chi ofyn am help.
Ym Mangor, byddwch yn cael Arweinydd Cyfoed - myfyriwr ail neu drydedd flwyddyn o'ch cwrs academaidd yw'r Arweinwyr Cyfoed ac sydd yno i'ch helpu gydag unrhyw anhawsterau neu gwestiynau.
Mi fydd yr amser yr ydych yn ei dreulio mewn darlithoedd yn dibynnu yn hollol ar y pwnc yr ydych yn ei ddewis. Gyda cwrs gwyddonol er enghraifft, mae’n debygol y byddwch yn treulio dipyn o amser mewn labordai, gweithdai ac efallai gwaith maes yn ogystal ag amser mewn darlithoedd. Ar y llaw arall, pe baech yn dewis cwrs y dyniaethau fel Cymraeg, Hanes neu ieithoedd, byddwch yn treulio amser mewn darlithoedd ond hefyd yn cael amser rhydd lle bydd angen i chi ddarllen mwy am eich pwnc.
Mi fydd y llyfrgell yn darparu’r lle perffaith i chi ddarllen, dod i wybod mwy am eich pwnc a pharatoi eich traethodau ac aseiniadau mewn awyrgylch ddistaw a heddychlon.
Yn wahanol i’r ysgol, ni fydd neb yn eich atgoffa bod gennych waith i’w gyflwyno erbyn wythnos nesaf… mi fydd i fyny i chi roi eich gwaith i mewn ar amser.
Bydd angen i chi gyrraedd terfynau amser a bod yn ymwybodol o dabl amser arholiadau.
Bydd eich Tiwtor Personol a’ch darlithwyr ar gael i helpu efo unrhyw anawsterau ac ati. Byddant hefyd yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith ac yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a’ch syniadau.
Gwnewch y mwyaf o’ch amser yn y brifysgol gan ei fod yn gyfle gwych i chi ddysgu sut i sefyll ar eich traed eich hun a dysgu am bethau newydd.
Gwnewch yn fawr ohono a chofiwch y byddwch, mae’n debyg, yn chwilio am waith ar ddiwedd eich cyfnod yn y brifysgol.
Mi fydd cyflogwyr yn chwilio am sgiliau trosglwyddadwy fel sgiliau cyfathrebu gwych, gwaith tîm, datrys problemau, rheoli amser a hunan gymhelliant. Gall yr holl bethau hyn gael eu cyflawni yn ystod eich astudiaethau ym Mangor.
Y prif wahaniaeth rhwng ysgol a phrifysgol yw’r rhyddid. Chi fydd yn rheoli eich amser eich hun, eich gwaith a'ch arian ond mi fydd yna ddigon o gefnogaeth ym Mangor i'ch helpu. Peidiwch â gadael i'r rhyddid newydd yma godi ofn arnoch, oherwydd mi fydd miloedd o fyfyrwyr eraill yn yr un cwch a chi ac mi fydd rhywun yno o hyd i’ch helpu ac i’ch rhoi ar ben ffordd os byddwch angen arweiniad.
A chofiwch, nid gwaith ydi o i gyd. Bydd eich amser yn y brifysgol hefyd yn amser i wneud ffrindiau am oes, darganfod llefydd newydd a phrofi pethau am y tro cyntaf. Mae Clybiau a Chymdeithasau Bangor, sydd ag aelodaeth am ddim, yn ffordd wych o ddod i nabod pobl ac i greu atgofion.