PROFIAD AMELIA
I'r rhan fwyaf o bobl, mae meddwl am ymgartrefu yn y brifysgol yn gallu bod yn frawychus. Efallai mai dyma'r tro cyntaf i chi fyw yn rhywle heb eich teulu, felly mae teimlo'n hapus a chyffyrddus yn eich cartref newydd yn gam pwysig tuag at fwrw ymlaen â bywyd yn y brifysgol. Isod ceir awgrymiadau i'ch helpu i ymgartrefu.
Yn gyntaf, dadbaciwch. Rhowch bopeth lle rydych eu heisiau ac addurnwch eich waliau gyda lluniau a phosteri. Gallech hyd yn oed roi ryg ar y llawr! Yn y gegin, gwnewch yn siŵr fod gennych y pethau angenrheidiol i fwyta a choginio, ac ewch i siopa cyn gynted â phosib, er mwyn gallu mwynhau eich wythnos gyntaf heb boeni am fwyd. Dilynwch y cyswllt hwn i gael gwybodaeth am beth sy'n cael ei ddarparu mewn neuadd.
Er mwyn teimlo'n gyffyrddus yn eich llety newydd, dewch i adnabod eich cyd-letywyr. Os ydych yn mynd i fyw mewn neuadd, curwch ar ddrysau'r bobl yn eich coridor, awgrymwch wneud pryd o fwyd fel grŵp bob wythnos, cynlluniwch ddyddiau neu nosweithiau allan gyda'ch gilydd. Byddwch i gyd yn newydd ac yn yr un cwch, felly mae'n bwysig gwneud cysylltiadau. Gwnewch fwyd blasus, chwaraewch gerddoriaeth (ond nid yn rhy uchel i amharu ar eich cyd-letywyr) a siaradwch â phobl! Yn raddol, byddwch yn ymgartrefu ac yn dod o hyd i'r bobl byddwch eisiau treulio eich amser â hwy.
Os byddwch yn teimlo hiraeth, ffoniwch eich ffrindiau a'ch teulu. Ceisiwch osgoi mynd adref yn ystod yr wythnosau cyntaf a rhowch gyfle i chi eich hun gael trefn ar eich diwrnod. Mae'n hollol ddealladwy teimlo hiraeth am eich cartref, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud eich gorau i gymryd rhan ym mywyd y brifysgol yn gyntaf. Trefnwch weithgareddau neu gyfarfodydd i'ch cadw'n brysur, a byddwch yn mwynhau eich hun ymhen dim! Ar ôl yr Wythnos Groeso, os byddwch eisiau mynd adref ar y penwythnosau, ewch! Dilynwch eich greddf ond ceisiwch beidio â gwneud unrhyw benderfyniadau byrbwyll y byddwch yn eu difaru wedyn. Nid yn ystod yr Wythnos Groeso yw'r unig dro y byddwch yn cwrdd â phobl neu'n gwneud pethau difyr, ond mae'n nodi dechrau eich bywyd yn y brifysgol pan fydd pawb yn teimlo'r un fath, sy'n golygu ei bod yn haws gwneud ffrindiau.
Efallai na fyddwch yn poeni am hyn yn ormodol yn ystod yr Wythnos Groeso, ond cyn bo hir bydd angen dillad glân arnoch chi! Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i olchi eich dillad cyn i chi gyrraedd, trefnwch gael cerdyn golchi dillad o beiriant dosbarthu neu lawrlwythwch yr ap a darganfod ble a phryd sydd orau i chi gyflawni'r dasg hon. Efallai eich bod hefyd yn ystyried ymuno â champfa. Mae Canolfan Brailsford ym Mhenrtre Ffriddoedd a champfa Safle'r Santes Fair yn rhad ac am ddim os ydych yn byw mewn neuadd, ac mae yna ddigon o offer i chi ei ddefnyddio yn y ddwy gampfa. Ceir campfeydd eraill o amgylch Bangor hefyd, felly mae'n werth edrych i weld beth sy'n gweithio orau i chi cyn i chi dalu am unrhyw beth.
Mae'n bwysig iawn eich bod yn cofrestru gyda meddyg teulu ym Mangor. Paratowch cyn i chi gyrraedd; os ydych yn gwybod bod arnoch angen symud eich gofal parhaol i'r ardal ble mae eich prifysgol wedi ei lleoli, ceisiwch wneud hyn cyn cyrraedd. Dylech fod yn cael y trafodaethau hyn gyda'ch cynghorwyr iechyd ymlaen llaw, fel y gallwch fwynhau eich hun yn lle poeni am eich meddyginiaeth neu apwyntiadau pan gyrhaeddwch yma. Gellir dod o hyd i wybodaeth am feddygon lleol yma, ynghyd â chysylltiadau defnyddiol eraill yn ymwneud ag iechyd a diogelwch myfyrwyr.
Yn olaf, dewch i adnabod yr ardal. Yn fuan ar ôl i chi gyrraedd, darganfyddwch ble rydych yn hoffi mynd i gerdded, bwyta allan neu yfed. Gwnewch hyn ar eich pen eich hun neu gyda ffrindiau, bydd ymgyfarwyddo â'ch lleoliad newydd yn eich helpu i deimlo'n fwy cartrefol. Gwnewch hyn wrth eich pwysau a gwnewch amser ar gyfer hunan-ofal. Ymlaciwch, gwyliwch ffilm a gwnewch ychydig o ymarfer corff. Gwnewch y pethau sy'n eich gwneud yn hapus gartref, a byddwch yn iawn!
Cymerwch ran yn y digwyddiadau yn ystod yr Wythnos Groeso! Maent yno i'ch helpu i ymgartrefu a chwrdd â phobl, felly gwnewch yn fawr ohonynt. Mae rhai yn cael eu trefnu gan y brifysgol neu Undeb y Myfyrwyr, rhai gan Campws Byw, ac mae rhai yn cael eu trefnu gan y gwahanol ysgolion academaidd. Mae pob un yn wych, ond os ydych yn poeni am gwrdd â phobl sydd ar eich cwrs, mae digwyddiadau cwrs yn fwy tebygol o'ch helpu chi yma.
Mae'n debyg mai Serendipedd yw digwyddiad pwysicaf yr Wythnos Groeso. Dyma lle gallwch ymuno â'r holl glybiau a chymdeithasau y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Fel rheol, mae llawer yn digwydd yma, gan gynnwys bwyd am ddim a chyfleoedd i wirfoddoli, felly gwnewch yn siŵr nad ydych ar frys. Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dweud na wnaethant fynd i gymaint o weithgareddau yn ystod yr Wythnos Groeso ag y byddant wedi ei hoffi, felly darganfyddwch ymlaen llaw y pethau rydych eisiau mynd iddynt fel nosweithiau ffilm, sesiynau blasu, neu gymdeithasu dan arweiniad Arweinydd Cyfoed, a gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd!
Mae bob amser ambell i grôl tafarnau'n cael ei hysbysebu, ac os ydych eisiau dod i adnabod yr ardal, mae'r rhain yn eithaf defnyddiol. Byddwch yn cwrdd â phobl newydd mewn amgylchedd hamddenol ac yn dysgu am y lleoedd gorau i gael diod rhad, os dyna beth ydych ei eisiau. Mae hefyd nosweithiau cwis yn cael eu cynnal o amgylch Bangor, mewn tafarndai neu fariau, a gall fod yn llawer o hwyl mynd gyda'ch cyd-letywyr, ffrindiau cwrs, neu unrhyw ffrindiau eraill rydych wedi eu gwneud yn eich amser fel glasfyfyriwr. Mae Bar Uno yng nghanol Safle Ffriddoedd. Mae'n lle gwych i fwyta ac yfed, cwrdd â phobl, ac maent hefyd yn cynnal digwyddiadau wythnosol sy'n rhedeg trwy gydol y flwyddyn.
Os nad ydych yn hoffi nosweithiau allan, mae llawer o bethau eraill i chi eu gwneud. Mae teithiau cerdded yn wych, gan fod myfyrwyr cyfredol ar gael i roi awgrymiadau i chi ar y lleoedd gorau i fwyta ac ymlacio. Bydd eich ysgol hefyd yn cynnal digwyddiadau heb unrhyw bwysau i aros allan yn hwyr, ac weithiau trefnir teithiau i weld gwahanol drefi gerllaw a all eich helpu i ymgyfarwyddo â'ch amgylchedd. .
Beth bynnag a wnewch yn ystod yr Wythnos Groeso, mwynhewch eich hun a byddwch yn chi eich hun, a byddwch yn sicr o wneud ffrindiau newydd.
Mae meithrin cyfeillgarwch ar y dechrau yn rhan enfawr o ymgartrefu mewn ardal newydd. Byddwch yn cwrdd â llawer o bobl yn eich wythnosau cyntaf ym Mangor, ond cofiwch na fyddwch yn ffrindiau gyda phawb, ac mae hynny'n hollol iawn.
Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr newydd yn ffodus ac yn gallu gwneud ffrindiau'n hawdd gyda eu cyd-letywyr ond nid yw hyn yn wir bob amser, ac mae hynny'n ddealladwy. Yn ystod yr Wythnos Groeso, bydd digwyddiadau i'ch helpu chi i gwrdd â phobl, felly dylech geisio mynd iddynt. Mae clybiau a chymdeithasau hefyd yn le gwych i gwrdd â phobl sydd â diddordebau tebyg i chi, neu bobl eraill sy'n rhoi cynnig ar rywbeth newydd. .
Rydych yn debygol o wneud ffrindiau â phobl ar eich cwrs - gallwch wneud hyn trwy ddechrau sgwrs cyn darlith neu ofyn cwestiwn i rywun ar eich ffordd allan o'r ddarlith. Mae cael ffrindiau ar eich cwrs yn golygu y gallwch helpu eich gilydd os byddwch yn cael trafferth gyda modiwl. Efallai na fydd hyn yn digwydd ar unwaith, ond bydd pobl yn fodlon cael sgwrs os byddwch chi'n fodlon, a gallai fod yn ddechrau cyfeillgarwch gwych!
Os ydych yn nerfus neu'n poeni am beidio ag yfed, gall nosweithiau dan arweiniad arweinwyr cyfoed wneud popeth yn haws. Maent yno i'ch helpu i ddechrau sgyrsiau, a sicrhau bod pawb yn ddiogel ac yn hapus. Os byddwch ddim ond yn dangos eich wyneb, gallai fod yn haws gwneud ffrindiau nag oeddech yn ei feddwl. Ar ôl i chi wneud ychydig o ffrindiau, mae'n siŵr y byddwch yn cwrdd â phobl drwyddynt hwy a fydd yn dod yn ffrindiau i chi hefyd!
Mae dod i adnabod Bangor yn gymharol hawdd i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr. Ar ôl i chi gerdded o amgylch y ddinas a dod i'w hadnabod, byddwch yn sylweddoli nad yw mor fawr ag yr oeddech yn meddwl ar y dechrau, ac mae'n dod yn fwy cyfarwydd. Dewch i adnabod un llwybr, yna ewch ar hyd lwybr newydd gyda ffrind, cerddwch i sesiynau blasu cymdeithas gydag arweinydd cyfoed, defnyddiwch fapiau, ewch i siopa ar y stryd fawr, ewch i weld y pier. Bydd yr holl bethau hyn yn eich helpu i ddod o hyd i'ch ffordd yn gyflym ac yn ddi-drafferth mewn dim o dro!
Mae yna ychydig o elltydd ym Mangor, felly os oes gennych chi unrhyw broblemau symudedd, ceisiwch ymgyfarwyddo â'r lleoliad ymlaen llaw. Maent fel arfer yn hylaw, ond weithiau gallant eich arafu ar eich ffordd i ddarlithoedd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser i gyrraedd y ddarlith cyn iddi ddechrau. Gallwch osgoi'r prif fryn sy'n mynd o ganol Bangor i Fangor Uchaf trwy fynd â'r lifft neu'r grisiau yn adeilad Pontio . Mae allt arall yn mynd i Bentref y Santes Fair , a all eto eich arafu, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n hapus â lleoliad eich neuaddau. Gallwch ddewis yr union ystafell a neuaddau rydych chi am fyw ynddynt, felly gwnewch eich ymchwil a gweithio allan yr opsiwn gorau i chi. Os ydych yn astudio cwrs a gaiff ei addysgu'n bennaf ar Safle'r Normal, bydd yn cymryd dipyn o amser i chi fynd yno o Safle'r Santes Fair os nad oes gennych feic neu gar, felly ystyriwch pa un yw'r llety gorau i chi fyw ynddo cyn i chi wneud unrhyw benderfyniadau mawr.
Mae rhai myfyrwyr yn dewis beicio, ond mae'r rhan fwyaf o lefydd o fewn pellter cerdded. Gallech chi ddod o hyd i bobl i gerdded i ddarlithoedd gyda nhw sy'n ei gwneud yn fwy o hwyl ac yn eich annog chi i godi o'ch gwely a mynd i ddarlith. Os byddwch yn mynd i rywle y tu allan i Fangor, mae'r trên a'r bysiau i gyd yn weddol rad a dibynadwy ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio eich taith ymlaen llaw.
Gallwch ofyn am gymorth wrth y ddesg gymorth ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, a fydd rhywun yno yn barod i esbonio'r ffordd i ystafelloedd neu adeiladau bob amser. Mae rhai myfyrwyr yn ceisio dod o hyd i adeiladau ac ystafelloedd y brifysgol cyn i'w dosbarthiadau ddechrau er mwyn sicrhau na fyddant yn hwyr neu'n colli'r ddarlith gyntaf - mae'n well bod yn barod bob amser.
I gael mwy o gymorth i ddod i adnabod y lle, edrychwch ar y canllaw hwn sy'n cynnwys mapiau, fideos a gwybodaeth am fynediad corfforol. Cofiwch, hyd yn oed os byddwch yn teimlo ar 'goll' ym Mangor, ni fyddwch byth mewn gwirionedd yn rhy bell o rywle cyfarwydd, neu rywun y gallwch ofyn iddo/iddi am help.
Ysgrifennu eich traethawd cyntaf a rheoli eich llwyth gwaith.
Yn eich aseiniad cyntaf, y cyfan y gallwch ei wneud yw eich gorau. Edrychwch ar y wefan Sgiliau Astudio i gael adnoddau ac awgrymiadau astudio, neu os ydych eisiau help llaw, gallech wneud apwyntiad gyda Mentor Ysgrifennu i Gyfoedion. Ar ôl i chi wneud eich aseiniadau cyntaf, gallwch ddarllen sylwadau eich darlithwyr a defnyddio'r cyngor yn eich aseiniad nesaf, fel na fyddwch yn ailadrodd yr un camgymeriadau. Gallech hefyd siarad â'ch tiwtor personol yn eich ysgol academaidd i gael cyngor penodol ar eich aseiniadau.
Trefnu nodiadau a'u hysgrifennu
Mae'n bwysig gallu rhoi trefn ar eich nodiadau. Y prif beth yw sicrhau eich bod yn eu cadw mewn lle diogel, ac mewn rhyw fath o drefn sy'n gwneud synnwyr i chi. Crëwch ffeiliau ar eich bwrdd gwaith, ar OneDrive neu ar bapur, ac ychwanegwch atynt yn rheolaidd. Tynnwch sylw bob amser at ffynonellau rydych yn meddwl a allai fod o gymorth i chi gydag aseiniad yn y dyfodol.
Cyd-fyw â phobl o gefndiroedd diwylliannol gwahanol
Nid Cymraeg na Saesneg yw iaith gyntaf rhai myfyrwyr ac efallai na fyddant yn gwybod rhyw lawer am y diwylliant lleol. Mae'n bwysig ystyried sut y gallai pobl deimlo os ydynt yn symud yma a hwythau ddim yn siarad Cymraeg na Saesneg fel iaith gyntaf. I'ch helpu i ffurfio perthynas ceisiwch ddysgu ambell gyfarchiad yn iaith eich cyd-letywyr a dysgu am ddiwylliant y naill a'r llall. Bydd hyn yn helpu pawb i ymgartrefu ynghynt, a dod yn ffrindiau gobeithio!
Mynd yn ôl i addysg ar ôl blwyddyn allan
Bydd llawer o bobl yn mynd i'r brifysgol yn syth o'r coleg, ond mae llawer o fyfyrwyr yn cymryd blwyddyn allan, felly ni fyddwch ar eich pen eich hun, a bydd pawb, waeth beth eu cefndir, yn teimlo ychydig yn bryderus wrth ddechrau'r brifysgol. Mewn rhai ffyrdd, mae gennych fantais, oherwydd rydych wedi cael mwy o amser i benderfynu beth rydych eisiau ei astudio, ac rydych wedi gwneud yr ymdrech i fynd yn ôl i addysg ar ôl seibiant. Efallai y bydd yn eich helpu i edrych yn ôl dros eich profiad mewn addysg. Mae rhai myfyrwyr yn gweld bod hyn yn eu helpu i drosglwyddo i feddylfryd prifysgol, oherwydd gallwch ymdrin â'ch gwaith yn yr un modd a gwneud newidiadau lle bo angen. Bydd gennych ryddid, ac mae cefnogaeth yma i chi os bydd ei hangen arnoch.
Dysgu sut i ddelio ag arian
Gwnewch gyllideb cyn i chi gyrraedd y brifysgol. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar sut i drefnu eich benthyciad myfyriwr a chyngor ariannol arall yma. Ar ôl i chi drefnu eich benthyciad myfyriwr, cyfrifwch faint fyddwch yn ei gael a phryd, ac yna gweld a fydd gennych unrhyw beth dros ben. Efallai y bydd rhaid i chi ddod o hyd i waith rhan-amser ym Mangor neu'r cyffiniau i helpu i dalu am eich gradd, bydd hyn hefyd yn beth gwych i'ch CV. Gwnewch yn siŵr eich bod yn blaenoriaethu eich astudiaethau. Gallwch gysylltu ag Uned Cymorth Ariannol y brifysgol trwy e-bost os hoffech gael cymorth penodol: moneysupport@bangor.ac.uk.
Ddim yn cyd-dynnu â chyd-letywyr
Wrth gwrs, dylech wneud eich gorau i gyd-dynnu a gwneud ymdrech i ddod i adnabod eich cyd-letywyr. Weithiau bydd anghytuno, ac yn aml bydd tensiwn ynglŷn â glanhau rhannau cymunedol. Y ffordd orau o ddatrys y problemau hyn yw cyfathrebu. Awgrymwch wneud siart tasgau - efallai eich bod yn meddwl bod gwneud hyn ychydig dros ben llestri, ond mae'n cadw pethau'n deg ac yn cadw eich llety'n lân. Ond os ydych yn teimlo'n anghyfforddus neu os yw'r bobl yn eich fflat yn effeithio ar eich profiad yn y brifysgol, dylech siarad â thîm y neuaddau a gwneud cwyn neu ofyn i gael symud i fflat arall. Nid oes raid i chi fyw yn rhywle os ydych yn teimlo'n anhapus yno.
Hunan-ddisgyblaeth
Mae'n debyg mae mynd i'r brifysgol yw'r tro cyntaf y byddwch yn gallu dewis mynd i ddarlithoedd ai peidio. Mae rhai myfyrwyr yn ei chael yn ddefnyddiol annog eu hunain i fynd i ddarlithoedd trwy olrhain eu presenoldeb ar FyMangor a bod yn gystadleuol ynglŷn â bod yn bresennol mewn gymaint o ddarlithoedd â phosib. Os byddwch yn cytuno i gerdded i ddarlithoedd gyda ffrindiau ar eich cwrs, mae gennych reswm arall dros godi a mynd. Byddwch yn realistig am yr hyn y gallwch ei gyflawni ond peidiwch â bod yn rhy drugarog â chi eich hun, neu efallai y byddwch yn difaru pan ddaw'n amser i wneud aseiniadau. Cofiwch, yn y pen draw, rydych chi yma i gael gradd.
Dod o hyd i gydbwysedd rhwng gweithio a chymdeithasu
Gall hyn fod yn anodd oherwydd eich bod eisiau mynd allan a chymryd pob cyfle i wneud ffrindiau, ond mae'n rhaid i chi hefyd sicrhau eich bod yn gwneud eich gwaith. Un ffordd o helpu gyda hyn yw mynd i'r llyfrgell gyda'ch ffrindiau. Mae hyn yn cyfuno'r cymdeithasol a'r academaidd. Trefnwch egwyl ginio gyda ffrind rhwng sesiynau astudio i gadw eich brwdfrydedd a chael cyfle i gymdeithasu tra'n parhau i ganolbwyntio ar eich astudiaethau. Os ydych y math o berson sy'n hoffi amserlenni, gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu amser i chi eich hun neu amser gyda ffrindiau.
Mae mynegai o'r Gwasanaethau Myfyrwyr ar gael yma a chanllaw defnyddiol yma, ond isod ceir rhestr gyflym o adrannau y dylech wybod amdanynt yn eich blwyddyn gyntaf.
Mae Neuadd Rathbone yn adeilad ar Ffordd y Coleg, heibio Prif Adeilad y Celfyddydau, sy'n cynnwys llawer o'r gwasanaethau y byddech efallai yn eu defnyddio yn ystod eich amser yn y brifysgol. Gellir cyrraedd pob adran trwy fynd i fyny'r grisiau neu i fyny yn y lifft. Gallwch ddod o hyd i'r canlynol yn yr adeilad...
Ar y llawr isaf:
- Y Gwasanaeth Anabledd (llawr isaf). Maent yn cynnig gwasanaeth i bob myfyriwr anabl, yn fyfyrwyr llawn-amser a rhan-amser, yn israddedigion neu'n ôl-raddedigion. Maent yn ystyried gofynion pob myfyriwr yn unigol a gallant roi cefnogaeth i chi gydag arholiadau neu drefnu trwyddedau parcio. Cliciwch ar y cyswllt am ragor o wybodaeth.
- Yr Uned Amserlennu. Mae'r gwasanaeth hwnynystafell 208, yn y dderbynfa, sy'n syth o'ch blaen pan ddewch trwy'r brif fynedfa.Mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.45am a 5pm, ac maentyn gyfrifol am gynhyrchu'r amserlen ddysgu ac archebu ystafelloedd dysgu canolog yn ystod y tymor.
- Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol. Mae'r gwasanaeth hwn ar agor rhwng 9am a 4pm, ac mae wedi ei leoli ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf (uwchben y Gwasanaeth Anabledd). Gallant roi cyngor ac arweiniad i'r holl fyfyrwyr rhyngwladol a'u teuluoedd am amrywiaeth o faterion yn ymwneud â lles. Mae cefnogaeth ar gael felly o dderbyniad hyd at raddio a thu hwnt i hynny.
Ar y llawr cyntaf:
- Mae'r Uned Cymorth Ariannol ar agor rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac maent yn anelu at gael polisi drws agored. Ond os hoffech drefnu apwyntiad i gael cyngor ariannol cysylltwch â'r uned trwy e-bost: moneysupport@bangor.ac.uk.
- Mae'r Swyddfa Tai Myfyrwyr ar agor bob dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4.30pm. Maent yn delio â llety preifat a gallant eich helpu i chwilio am lety i'w rentu os nad ydych eisiau byw mewn neuadd.
Ar yr ail lawr:
- Mae'r Gwasanaeth Cwnsela Myfyrwyr ar agor yn ystod yr wythnos rhwng 8.45am a 5pm. Mae hwn yn wasanaeth anhygoel o dda, am ddim, a all eich cynghori, eich helpu i oresgyn pryder a'ch helpu i beidio â cynhyrfu os ydych yn teimlo dan straen neu o dan bwysau. Gallech hefyd siarad â chynghorydd iechyd meddwl i gael arweiniad pellach.
- Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd ar agor yn ystod yr wythnos rhwng 9am a 5pm. Mae'r gwasanaeth hwn wedi ymrwymo i'ch helpu gyda'ch cyflogadwyedd. Os ydych yn chwilio am swydd ran-amser, yn edrych ar eich dewisiadau gyrfa, yn chwilio am brofiad gwaith, yn gwella eich CV, yn meddwl sefydlu eich busnes eich hun neu'n gwneud PhD, maent ar gael i'ch cynorthwyo a'ch cefnogi.
- Mae'r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnig cefnogaeth wych ar gyfer eich astudiaethau. Mae gan eu gwefan lawer o adnoddau a gwybodaeth ddefnyddiol ar y sgiliau sy'n allweddol i'ch llwyddiant yn y brifysgol. Gallent eich helpu gydag aseiniadau neu eich cefnogi gyda sgiliau mathemateg ac ystadegau.
Gwasanaethau a chyfleusterau eraill ym Mhrifysgol Bangor:
- Eich tiwtor personol. Neilltuir tiwtor personol i bob myfyriwr yn ystod ei wythnosau cyntaf ym Mangor. Fel arfer bydd eich tiwtor personol yn ddarlithydd yn eich ysgol academaidd a all helpu gydag unrhyw bryderon neu broblemau sydd gennych gyda'r cwrs neu fywyd cyffredinol yn y brifysgol. Gallwch weld pwy yw eich tiwtor personol trwy fynd ar FyMangor, clicio ar 'Gwasanaethau Ar-lein', ac yna 'Ffeithiau Cyflym.' Dylai enw eich tiwtor fod yno, ynghyd â gwybodaeth arall amdanoch chi a'ch cwrs. Os nad ydych yn hapus â'ch tiwtor personol, mae gennych berffaith hawl i gael tiwtor arall. Gallwch wneud hyn trwy gysylltu â Gweinyddu Myfyrwyr.
- Desg Gymorth TG. Mae trafferthion cyfrifiadurol yn sicr o ddigwydd, hyd yn oed i'r cyfrifiaduron sydd yn y llyfrgell. Mae staff y Ddesg Gymorth yn dîm gofalgar a all helpu i ddatrys eich problemau yn gyflym ac yn effeithlon pan fyddwch yn cyflwyno cais neu'n galw heibio am gymorth. Ar eich diwrnod cofrestru gallant eich helpu gyda'ch cysylltiad di-wifr a'ch rhif adnabod myfyriwr os byddwch yn cael unrhyw broblemau gyda'r rheiny.
- Mae llyfrgell yn cynnig lle i chi wahaniaethu rhwng gwaith a chymdeithasu. Gall hefyd eich helpu i ganolbwyntio. Ceir pedair llyfrgell ym Mhrifysgol Bangor, ac mae aelodau staff cymwynasgar ac adnoddau defnyddiol yno i'ch gynorthwyo gydach astudiaethau:
- Undeb y Myfyrwyr. Mae Undeb y Myfyrwyr wedi ei leoli ar y pedwerydd llawr yn adeilad Pontio, a;r undeb yw llais y myfyrwyr a chartref bywyd myfyrwyr ym Mangor. Maent yn 'gweithio i roi llwyfan i'ch llais, i alluogi cyfleodd i chi ac i ddatblygu eich cymunedau.' Gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth a chefnogaeth ar eu gwefan, ac mae croeso i chi ymweld a'r swyddfeydd unrhyw bryd.
- Mae ystafelloedd cyffredin Pontio yn wych i astudio ynddynt neu gael saib rhwng darlithoedd. Mae dau le bwyta yno hefyd, neu gallech fynd i Gaffi'r Teras ym Mhrif Adeilad y Celfeddydau, sy'n gwneud bwyd da os ydych eisiau pryd rhwng darlithoedd.
- Mae Caffi Barlow a Bar Uno yn lleoedd defnyddiol i gwrdd ynddynt, cael diod neu rywbeth i'w fwyta ar safleoedd neuaddau'r brifysgol.
Dyma rai awgrymiadau a sylwadau defnyddiol gan fyfyrwyr presennol Prifysgol Bangor.
Llety
'Os ydych mewn neuadd ar Safle Ffriddoed ac yn archebu bwyd danfon, mae'n llawer haws dweud wrth y gyrrwr i gwrdd â chi yn yr adeilad diogelwch a chasglu eich bwyd yno.'
Cefnogaeth
'Mae'r darlithwyr yno i'ch helpu, felly gofynnwch gwestiynau.'
'Yr ofn mawr oedd gennyf wrth fynd i'r Brifysgol oedd meddwl y byddai popeth y tu hwnt i'm rheolaeth. Roeddwn yn credu pe na bawn yn mwynhau'r wythnosau cyntaf neu os nad oeddwn yn hapus yn fy fflat yna byddai fy mhrofiad prifysgol gyfan yn cael ei ddifetha, ond roedd hynny'n hollol anghywir. Mae mynd i'r Brifysgol yn brofiad hollol newydd sy'n golygu na fyddwch yn gallu rhagweld popeth a fydd yn digwydd; ond nid yw hynny'n golygu bod popeth y tu hwnt i'ch rheolaeth.
Os nad ydych yn teimlo'n hapus yn eich llety, os yw rhan o'r cwrs yn wahanol i beth roeddech wedi ei ddisgwyl, os ydych yn ei chael yn anodd addasu i amgylchedd newydd, mae'r brifysgol yno i'ch helpu gyda phroblemau felly. Peidiwch byth â teimlo'n sownd mewn sefyllfa, oherwydd mae rhywun yn y brifysgol bob amser fydd yn gallu dod o hyd i ffordd o'ch helpu. Hyd yn oed os yw hynny'n golygu chwilio am lety arall neu gael sesiwn un i un gyda'ch tiwtor unwaith yr wythnos i ddeall y cwrs yn well, bydd rhywun yno i helpu bob amser.' '
Ymlaciwch
'Peidiwch â gorwneud pethau a chwythu plwc. Gwnewch amser i chi eich hun a chofiwch y dylai'r brifysgol fod yn rhywbeth rydych yn ei fwynhau.'
'Peidiwch â phoeni cymaint am sut argraff rydych yn ei wneud ar bobl, mae pawb yn yr un sefyllfa ac mae'n siŵr eu bod nhw'n teimlo'r un mor chwithig neu heb baratoi. Hefyd, cadwch eich cyllid myfyrwyr a pheidiwch â gwario'n wirion..'
'Siaradwch â phobl, os ydych yn bryderus neu'n nerfus pan fyddwch yn symud i mewn, eisteddwch yn y gegin ac ymlaciwch am dipyn. Gwnewch yn siŵr eich bod ar gael yn gymdeithasol hyd yn oed os ydy'r syniad yn eich dychryn, bydd yn talu ar ei ganfed yn y tymor hir!'
'Mae'n iawn mynd adref i weld eich teulu! Peidiwch â gwneud beth wnes i a rhoi pwysau ar fy hun i beidio mynd tan yr wythnos ddarllen, os ydych angen mynd ar y penwythnosau, ewch! Mae'n gallu eich helpu i setlo'n well.'
Mwynhewch!
'Rwy'n difaru peidio cymryd mwy o amser i fwynhau Wythnos y Glas.'
'Mwynhewch, mae'n mynd yn gyflym. Gwnewch yn fawr o bopeth sydd ar gael (clybiau, cymdeithasau, digwyddiadau), ond cofiwch weithio'n galed hefyd. Dewch i adnabod yr ardal leol, mae'n brydferth a dylid ei gwerthfawrogi.'
'Gwnewch yn fawr o bob cyfle.'
'Mae pawb yn addasu i fywyd prifysgol yn eu ffordd eu hunain, ac mae gennych y dewis i wneud beth bynnag rydych yn teimlo sydd orau i chi.
Am fwy o gyngor ar fynd i'r Brifysgol, mae fideos a flogs wedi eu creu gan staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor. Cewch ddysgu mwy am ein cyrsiau, adnoddau, lleoliad, llety a bywyd myfyrwyr.