Israddedigion
Rydym yn rhoi sicrwydd o lety i ymgeiswyr israddedig newydd sydd:
- yn gwneud cais ar gyfer cwrs llawn-amser sy'n dechrau fis Medi
- yn gwneud cais ar gyfer cwrs sydd wedi ei leoli yn ein campws ym Mangor
- yn dewis Bangor fel eu dewis Cadarn
- yn gwneud cais am le mewn neuadd erbyn 31 Gorffennaf.
Sylwch, mae ein llety i israddedigion yn bennaf yn ystafelloedd i un, yn rhai en-suite a chyda chyfleusterau hunanarlwyo. Os gwnewch gais am le mewn neuadd cyn y dyddiad cau, sef 31 Gorffennaf, byddwch yn gallu dewis pa ystafell fyddai orau gennych.
Ôl-raddedigion
- Rydym yn rhoi sicrwydd o lety i ymgeiswyr ôl-raddedig sydd:
- yn gwneud cais ar gyfer cwrs llawn-amser sy'n dechrau fis Medi
- yn gwneud cais ar gyfer cwrs sydd wedi ei leoli yn ein campws ym Mangor
- yn llwyddo i ennill statws diamod cyn 7 Awst
- yn gwneud cais am le mewn neuadd erbyn 7 Awst
Sylwch, mae ein llety i ôl-raddedigion yn bennaf yn ystafelloedd i un, yn rhai en-suite, fflatiau stiwdio a thai tref. Os gwnewch gais am le mewn neuadd cyn y dyddiad cau, sef 7 Awst, byddwch yn gallu dewis pa ystafell fyddai orau gennych.