Mae mynd â cherddoriaeth i’r gymuned yn agwedd greiddiol o weledigaeth a chenhadaeth yr Ysgol, ac fe’i hystyrir yn hollbwysig bod gwaith yr Ysgol yn effeithio’n uniongyrchol ar y gymuned leol.
Mae gwerthuso pwysigrwydd cerddoriaeth yn y gymuned yn agwedd gymharol newydd o ymchwil yn yr ysgol sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd gan Gwawr Ifan. Mae Gwawr yn arbenigo mewn Cerddoriaeth, iechyd a lles, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig yn nylanwad cerddoriaeth gymunedol ar iechyd a lles cymdeithasol yng Nghymru, a’r defnydd o gerddoriaeth fel cyfalaf cymdeithasol.
Mae prosiectau ymchwil cyfredol yn canolbwyntio ar gerddoriaeth a dementia yn y gymuned leol, ac mae'r ysgol yn cydweithio â Chanolfan Celfyddydau Pontio i ddefnyddio preswyliadau artistig mewn cartrefi gofal ym Mangor fel astudiaethau achos ar gyfer ymchwil.
Mae cyllid wedi ei dderbyn gan SEMPER (Cymdeithas Ymchwil Seicoleg Addysg a Cherdd) i ddatblygu’r maes astudio hwn ymhellach, ac i godi ymwybyddiaeth o ddementia ymhlith plant a phobl ifanc mewn ysgolion uwchradd yn ardal Bangor. Mae’r Ysgol ar hyn o bryd yn cydweithio â sefydliadau celfyddydol lleol i ddatblygu prosiect ymchwil newydd yn seiliedig ar y rhaglen addysg ryngwladol, ‘El Sistema’, a hefyd yn gweithio’n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu posibiliadau ymchwil ymhellach ar gyfer y dyfodol.