Fy ngwlad:

Gwybodeth am Fyw mewn Neuaddau i Rieni a Gwarcheidwaid

Fel rhiant neu warcheidwad, efallai bod gennych bryderon am eich person ifanc yn byw i ffwrdd o gartref am y tro cyntaf. Mae byw yn ein neuaddau preswyl modern yn gam gwych cyntaf tuag at annibyniaeth - cyfle i wneud ffrindiau newydd tra'n dal i dderbyn cefnogaeth. Dyma 10 prif fantais o fyw yn Neuaddau Prifysgol Bangor.

Myfyrwyr yn cymdeithasu mewn un o'r fflatiau ym mhentref y Santes Fair

Sicrwydd o Safonau Uchel 

Gallwch fod yn sicr bod ein llety yn cwrdd â safonau ansawdd trylwyr. Gyda chefnogaeth cynnal a chadw 24/7, ni fydd angen i chi boeni am eu hamodau byw tra eu bod i ffwrdd o gartref.
 

Myfyrwyr yn siarad tu allan i'r brifsysgol

Byw Cynhwysol 

Ni fydd angen poeni am eich person ifanc yn rheoli biliau lluosog. Mae'r holl gyfleustodau, Wi-Fi, a chostau byw wedi'u cynnwys mewn un taliad syml, gan wneud cynllunio ariannol yn syml i'r teulu cyfan.

Myfyrwyr yn siarad ac ymlacio yn Barlows, Pentref Myfyrwyr y Santes Fair

Cefnogaeth Ddydd a Nos

Mae diogelwch ein myfyrwyr yn flaenoriaeth i ni. Gyda diogelwch 24/7, wardeiniaid preswyl, a myfyrwyr sy’n fentoriaid ar gael ym Mhentrefi Myfyrwyr Y Santes Fair a Ffriddoedd, mae rhywun yno bob amser i ofalu am eu lles.

Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ffôn symudol, yn pwyso yn erbyn wal

Cysylltiadau Cymdeithasol Cynnar 

Drwy ein ap Campus Connect, gall myfyrwyr gysylltu â'u cyd-letywyr a chyd-fyfyrwyr ar eu cwrs cyn i'r tymor ddechrau. Mae'r rhyngweithio cynnar hwn yn helpu lleihau pryder am symud i ffwrdd ac yn sicrhau bod wynebau cyfeillgar i'w croesawu pan fyddant yn cyrraedd.

Llun o fyfyrwyr yn cerdded y tu allan i ddrws ail lawr adeilad Pontio.

Bywyd Cymdeithasol Parod 

Mae myfyrwyr sy'n byw yn ein Neuaddau yn dod yn aelodau awtomatig o’r cynllun Campws Byw sy’n cynnig digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd. Mae'r rhaglen hon o weithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol yn helpu myfyrwyr i ymgartrefu ym mywyd y Brifysgol ac adeiladu cyfeillgarwch ystyrlon o'r eiliad y byddant yn cyrraedd.

Students socialising in Halls

Wynebau Cyfarwydd 

Os ydyn nhw eisiau byw yn ein Neuaddau yn agos at ffrind o gartref, gallwn sicrhau hyn, cyn belled â'u bod yn archebu ar yr un pryd i sicrhau eu bod yn cael eu lleoli'n agos at ei gilydd. Gall y system gefnogaeth gyfarwydd hon wneud y newid i fywyd prifysgol yn fwy esmwyth a chyfforddus.

Grŵp o fyfyrwyr yn sgwrsio

Opsiynau Byw wedi'u Teilwra

Rydym yn deall bod pob myfyriwr yn wahanol ac â gwahanol ddewisiadau o ran eu hamgylchedd byw. P'un ai yw'n ardal dawel, amgylchedd di-alcohol, neu lety i ferched yn unig, mae gennym opsiynau i weddu i'w hanghenion personol.

Myfyriwr yn codi pwysau uwch ei ben yng Nghanolfan  Brailsford

Ffordd Iach o Fyw

Mae aelodaeth gampfa am ddim yn sicrhau y gall preswylwyr Neuaddau'r Brifysgol gynnal ffordd iach o fyw heb gost ychwanegol. Mae lles corfforol yn hanfodol ar gyfer llwyddiant academaidd ac iechyd meddwl.

Llety - myfyrwyr yn cerdded drwy bentref y Santes Fair

Cyfle i Newid Ystafell

Os nad yw'r ystafell yn siwtio, rydym yn cynnig yr hyblygrwydd i newid ystafelloedd. Mae hyn yn sicrhau y gall myfyrwyr ddod o hyd i'w hamgylchedd byw perffaith heb straen.

Myfyrwyr yn cerdded ger Neuaddau Preswyl Ffriddoedd

Opsiwn i Ddychwelyd i'r Neuaddau

Gall myfyrwyr ddewis aros yn ein neuaddau cyfyngedig ar gyfer y rhai sy'n dychwelyd ar ôl eu blwyddyn gyntaf os ydynt yn dymuno.. Gall y parhad hwn ddarparu sefydlogrwydd yn ystod eu taith drwy’r prifysgol a thawelwch meddwl i chi fel rhiant.