Nid oes rhaid i liniaru effaith newid yn yr hinsawdd ar gymarebau rhyw cywion crwbanod môr gostio'r ddaear
Gall dulliau syml fod yn effeithiol i sefydlogi cymarebau rhyw cywion crwbanod môr, yn ôl ymchwil sydd newydd ei gyhoeddi gan wyddonwyr Prifysgol Bangor.
Caiff rhyw cywion crwbanod môr ei bennu gan y tymheredd pan fydd yr wyau'n deor. Mae tymheredd uwch yn cynhyrchu mwy o fenywod, a thymheredd is yn cynhyrchu mwy o wrywod.
Mae'r cynnydd yn nhymheredd y môr wedi arwain at fwy o grwbanod môr benywaidd. Mae rhai poblogaethau yn dangos tuedd o hyd at 90% o gywion benywaidd, gan arwain at effaith andwyol bosib ar hyfywedd y boblogaeth. Mae tymheredd uchel yn y tywod hefyd yn arwain at lai o lwyddiant wrth ddeor.
Mae'r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y Journal of Applied Ecology, yn dangos bod gan ddau ymyriad y potensial o leihau tymheredd nythod a sefydlogi cymarebau rhyw mewn poblogaeth crwbanod pendew sy’n nythu yn nwyrain Cefnfor yr Iwerydd.
Esboniodd Dr Leo Clarke, biolegydd môr ym Mhrifysgol Bangor a phrif awdur yr astudiaeth:
“Mae gwaith blaenorol wedi rhoi technegau amrywiol i leihau tymereddau nythod crwbanod môr ar brawf, yn cynnwys taenu’r nythod a’u rhoi yn y cysgod a symud wyau i labordai i ddeor.
“Ond mae llawer o’r technegau hyn yn gofyn am lawer iawn o adnoddau a llawer iawn o waith. Mae safleoedd nythu crwbanod neu 'nythfaoedd' yn aml mewn lleoliadau anghysbell ac felly mae’n rhaid i’r atebion delfrydol fod yn syml ac yn rhad.
“Rhoddwyd dau ymyriad ar brawf gennym: rhoi’r nythod yn y cysgod a thechneg newydd rydym yn ei galw'n “hollti” nythod. Mae hyn yn golygu haneru nifer yr wyau mewn nyth, gan obeithio lleihau faint o wres metabolaidd y mae'r wyau yn ei gynhyrchu wrth iddynt ddeor a gostwng y tymheredd felly."
Gostyngodd y ddwy dechneg dymheredd y nythod o gymharu â nythod naturiol. Roedd nythod yn y cysgod ar gyfartaledd yn 1.1°C yn oerach ac roedd nythod wedi eu hollti yn 0.5°C yn oerach, gan arwain at gymarebau rhyw o 1.5% benywod a 45% benywod, o gymharu â 69% benywod a gynhyrchwyd mewn nythod naturiol.
Yn bwysig, nid oedd y naill dechneg na'r llall yn effeithio ar iechyd y cywion, er y gall tymereddau nythu effeithio arnynt hefyd.
Cywion crwbanod môr
Mae'n rhaid i gywion allu osgoi ysglyfaethwyr ar y traeth
“Gwnaethom fesur pob math o elfennau yn gysylltiedig â’r cywion”, meddai Dr Clarke, “gan gynnwys eu maint, pwysau, cyflymder rhedeg a pha mor gyflym roeddent yn gallu unioni eu hunain, ac ni chanfuwyd unrhyw wahaniaeth rhwng y nythod. Mae hyn yn bwysig iawn, gan fod rhaid i gywion allu osgoi ysglyfaethwyr ar y traeth ac ar ôl cyrraedd y môr."
Cynhaliwyd yr astudiaeth yn Cape Verde, Gorllewin Affrica, y trydydd safle nythu crwbanod pendew mwyaf yn y byd. Symudodd y tîm wyau oddi wrth fenywod oedd yn nythu i ddeorfa ar lan y traeth er mwyn cynnal yr arbrawf.
“Bûm yn cerdded i fyny ac i lawr y traethau drwy’r nos yn cymryd wyau i’n harbrawf gan fenywod oedd yn nythu.”
Mae'r canlyniadau'n rhoi gobaith y gall rheolaeth syml helpu i ddiogelu poblogaethau crwbanod môr sydd mewn perygl oherwydd newid yn yr hinsawdd.
Mae’r ymchwilwyr yn credu y bydd y technegau'n effeithiol mewn mannau eraill.
“Mae mwyafrif y poblogaethau o grwbanod môr yn dodwy nifer fawr o wyau, weithiau 150 neu fwy, ac yn cynhyrchu cryn dipyn o wres metabolaidd, felly rydym yn credu y bydd hollti’r nythod yn gweithio mewn ardaloedd eraill ac ar gyfer rhywogaethau a phoblogaethau eraill”, meddai Dr Clarke.
“Mae twristiaeth gwylio bywyd gwyllt, gan gynnwys crwbanod môr, yn cynhyrchu cryn dipyn o arian mewn ardaloedd sydd â phoblogaethau nythu, ac mae crwbanod môr hefyd yn pori ar algâu a morwellt ac yn cyfrannu at iechyd ecosystemau riffiau cwrel. Felly mae gwarchod poblogaethau iach yn y dyfodol yn bwysig iawn”.
Mae’r papur “Low‐cost tools mitigate climate change during reproduction in an endangered marine ectotherm” ar gael trwy fynediad agored yn y Journal of Applied Ecology.