Mae Cymdeithas Sŵolegol Llundain a Phrifysgol Bangor wedi datgelu cysylltiadau sylfaenol rhwng yr argyfwng hinsawdd byd-eang a llygredd plastig, gan gynnwys tywydd eithafol yn gwaethygu dosbarthiad microplastigion i ardaloedd dihalog ac anghysbell.
Y cefnfor a’i ecosystemau a'i rywogaethau fel arfer yw canolbwynt ymchwil i lygredd plastig ac ymchwil i newid yn yr hinsawdd; fodd bynnag, yn aml anwybyddir effaith waethygol y ddau gyda'i gilydd.
Mewn papur a gyhoeddwyd heddiw (28 Medi 2021) yn Science of the Total Environment, am y tro cyntaf, mae tîm rhyngddisgyblaethol o wyddonwyr wedi casglu tystiolaeth bod problemau byd-eang llygredd plastig yn y môr a newid yn yr hinsawdd yn gwaethygu ei gilydd, gan greu cylch peryglus, ac mae’n annog llywodraethau a llunwyr polisi i fynd i'r afael â'r ddwy broblem gyda’i gilydd.
Llygredd plastig mewn mannau dihalog ac anghysbell
Cysylltu llygredd plastig â newid hinsawdd
Nododd y tîm dair ffordd arwyddocaol y mae'r argyfwng hinsawdd a llygredd plastig - sy'n sbardun sylweddol i golli bioamrywiaeth y môr - yn gysylltiedig â’i gilydd, a'r cyntaf yw sut mae plastig yn cyfrannu at nwyon tŷ gwydr byd-eang trwy gydol ei gylch bywyd, o’r amser y caiff ei gynhyrchu hyd yr amser y caiff ei waredu. Mae'r ail yn dangos sut y bydd tywydd eithafol, megis llifogydd a theiffwnau sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd yn gwasgaru ac yn gwaethygu llygredd plastig. Gyda llygredd plastig ac effeithiau newid yn yr hinsawdd yn broblem fawr i gefnforoedd, moroedd ac afonydd, mae'r trydydd pwynt yn rhoi sylw i’r rhywogaethau morol a'r ecosystemau sy'n arbennig o agored i'r ddwy broblem.
Mae llygredd plastig yn cael effaith ddinistriol ar fioamrywiaeth y môr - o anifeiliaid unigol yn llyncu bagiau plastig i gynefinoedd cyfan sydd wedi'u llygru â microplastigion. Â hwythau wedi eu cynhyrchu’n bennaf o danwydd ffosil, a’r disgwyl y bydd y galw byd-eang yn cynyddu, rhagwelir y bydd cynhyrchu plastig wedi allyrru mwy na 56 biliwn tunnell fetrig o garbon deuocsid mewn nwyon tŷ gwydr rhwng 2015 a 2020, sef 10 - 13% o'r gyllideb garbon sy'n weddill.*
Mae newid yn yr hinsawdd eisoes yn achosi digwyddiadau tywydd mwy eithafol gan gynnwys stormydd a llifogydd sy'n cynyddu gwasgariad gwastraff wedi'i gamreoli rhwng y tir a’r môr. Yn ogystal, mae rhew môr yn dal microplastigion a fydd yn cael eu rhyddhau i'r cefnfor wrth i'r rhew doddi oherwydd cynhesu byd-eang.
Mae ymwybyddiaeth y cyhoedd a sylw'r cyfryngau i'r ddwy broblem wedi cynyddu’r aruthrol dros y blynyddoedd, ond mae astudiaethau'n dangos mai ymdrin â nhw fel materion ar wahân a wneir yn aml, gan gystadlu â’i gilydd am adnoddau hyd yn oed. Meddai’r Athro Heather Koldewey, Uwch Arbenigwr Technegol yng Nghymdeithas Sŵolegol Llundain a phrif awdur y papur, bod atebion integredig i liniaru’r ddau argyfwng yn bosibl a bod yn rhaid ystyried gwneud hynny.
Dywedodd yr Athro Koldewey:
“Heb os, mae newid yn yr hinsawdd yn un o brif fygythiadau byd-eang ein hoes. Mae llygredd plastig hefyd yn cael effaith fyd-eang; o gopa Everest i rannau dyfnaf y cefnfor. Mae'r ddeubeth yn cael effaith niweidiol ar fioamrywiaeth y cefnfor; o newid yn yr hinsawdd yn cynhesu tymheredd y cefnfor ac yn achosi difrod i riffiau cwrel, i blastig yn niweidio cynefinoedd ac yn achosi marwolaethau ymhlith rhywogaethau’r môr. Mae effaith gyfunol y ddau argyfwng yn gwaethygu'r broblem. Nid mater o ddadlau pa broblem sydd bwysicaf yw hyn, ond o gydnabod bod y ddau argyfwng yn rhyng-gysylltiedig ac angen eu datrys ar y cyd."
Mae'r astudiaeth yn dangos pa mor agored i niwed yw’r rhywogaethau a’r cynefinoedd sy'n cael eu heffeithio gan newid yn yr hinsawdd ac a all gael effaith ar newid yn yr hinsawdd, ac sydd hefyd yn cael eu bygwth gan lygredd plastig, megis crwbanod môr a chwrelau. Mae'n dangos bod angen ymchwil pellach i bennu beth yn union yw’r cysylltiadau hyn, eu rolau yn ein hamgylchedd naturiol, a sut mae'r ddwy broblem yn rhyngweithio i gael effaith negyddol ar ecosystemau.
Ychwanegodd yr Athro Koldewey:
“Y newid mwyaf fydd symud i ffwrdd o blastig gwastraffus nad oes modd ei ddefnyddio ond unwaith ac o economi linol i economi gylchol sy'n lleihau'r galw am danwydd ffosil niweidiol."
Dywedodd Helen Ford, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor a arweiniodd yr astudiaeth:
Gan mai riffiau cwrel yw canolbwynt fy ymchwil, caf fy atgoffa’n ddyddiol pa mor agored i niwed yw’r ecosystemau morol hyn oherwydd newid yn yr hinsawdd. Rwyf wedi gweld sut mae hyd yn oed y riffiau cwrel mwyaf anghysbell yn cael eu difrodi oherwydd cynhesu byd-eang. Mae llygredd plastig yn fygythiad arall i'r ecosystemau hyn sydd dan straen.
“Mae ein hastudiaeth yn dangos bod newidiadau o ganlyniad i lygredd plastig a newid yn yr hinsawdd eisoes yn effeithio ar organebau morol ar draws ecosystemau morol a gweoedd bwyd, o'r plancton lleiaf i'r morfilod mwyaf. Mae angen i ni ddeall sut y bydd y bygythiadau hyn i fywyd y môr yn rhyngweithio â’i gilydd wrth iddynt waethygu ac annog llunwyr polisi i weithredu i fynd i’r afael â’r bygythiadau byd-eang hyn.”
Mae ymwybyddiaeth gynyddol bod argyfyngau amgylcheddol byd-eang wedi'u cysylltu â’i gilydd. Roedd astudiaeth ddiweddar dan arweiniad Cymdeithas Sŵolegol Llundain yr oedd yr Athro Koldewey hefyd yn gyd-awdur ynddi, yn pwysleisio bod rhaid mynd i'r afael â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng bioamrywiaeth gyda’i gilydd i sicrhau bod yr atebion yn mynd yn ddigon pell, ac mae'n awgrymu sawl ateb sy’n seiliedig ar natur fynd i'r afael â'r ddau argyfwng.
Mae Cymdeithas Sŵolegol Llundain yn annog llywodraethau’r byd a llunwyr polisi i roi natur wrth wraidd pob penderfyniad er mwyn mynd i’r afael ar yr un pryd â bygythiadau byd-eang newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth a bydd y gymdeithas yn galw ar arweinwyr i wneud yr ymrwymiad hwn yn COP26 yn Glasgow ym mis Tachwedd. Gallwch gefnogi gwaith cadwraeth blaenllaw Cymdeithas Sŵolegol Llundain trwy wneud cyfraniad ar-lein. Ewch i www.zsl.org i ddysgu mwy.