Cefnfor cythryblus yn oes yr iâ
Mae ymchwil yn dangos bod y llanw a chymysgu’r dyfroedd o achos y llanw yn gryfach yn ystod yr Uchafbwynt Rhewlifol Diwethaf.
Efallai nad ymddengys hi fod llanw a thrai rheolaidd a rhagweladwy'r moroedd yn newid, ond mae ymchwil newydd a wnaed gan Brifysgol Bangor (Y Deyrnas Unedig) a Phrifysgol Talaith Oregon (Yr Unol Daleithiau) ac a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Communications Earth and Environment wedi dangos y gallasai'r llanw a phrosesau’r llanw wedi bod yn wahanol iawn yn ystod oesoedd yr iâ.
Yn ystod anterth yr oes iâ ddiwethaf, roedd tymereddau byd-eang oddeutu 6°C yn oerach nag ydyn nhw ar hyn o bryd, ac roedd rhannau helaethach o gyfandiroedd Hemisffer y Gogledd wedi'u gorchuddio â haenau mawr o iâ. Daeth y dŵr ar gyfer y rhew o'r cefnforoedd, gan olygu bod lefelau'r môr oddeutu 120m yn is. Achosodd hyn hefyd lanw llawer mwy ledled Cefnfor yr Iwerydd.
Mae gwyddonwyr wedi awgrymu o'r blaen bod llai o gymysgu rhwng haenau o ddŵr, a bod hyn yn dal carbon, oherwydd bod y cefnforoedd dyfnion yn fwy llonydd, gan ei gadw allan o'r atmosffer. Cyfrannodd crynodiadau is o garbon deuocsid atmosfferig, sy’n nwy tŷ gwydr, at yr hinsawdd oer. Fodd bynnag, nid yw'r rhagdybiaeth hon yn cyfrif am newidiadau yn y llanw.
Yn y cefnfor heddiw, mae’r llanw'n peri i’r dyfroedd gymysgu, a elwir yn 'dyrfedd', sy'n cymysgu dyfroedd yr wyneb a dyfroedd dwfn ac sy’n cynnal y cylchrediad gwrthdro cefnforol dwfn byd-eang. Mae hyn yn ei dro yn dylanwadu ar ein systemau hinsawdd a thywydd byd-eang.
Mae ymchwil newydd wedi dangos bod tyrfedd a achoswyd gan y llanw wedi cynyddu yn ystod anterth yr oes iâ ddiwethaf, sy’n felly'n gwrth-brofi’r ddamcaniaeth fod y cefnforoedd dyfnion yn fwy llonydd.
Cymharodd yr ymchwilwyr efelychiadau modelau hinsawdd gyda data o isotopau carbon gwaddodol. Daethant i'r casgliad y byddai angen llanw cryfach a mwy o gymysgu i greu'r data a gofnodwyd yn y gwaddod.
Meddai Dr Sophie-Berenice Wilmes, arbenigwr ar ddeinameg system y Ddaear ym Mhrifysgol Bangor ac awdur yr astudiaeth:
“Mae'r canlyniadau hyn yn gyffrous iawn gan eu bod yn darparu tystiolaeth bod y llanw a chymysgu'r dyfroedd o achos y llanw yn wahanol i'r hyn ydi o heddiw yn ystod yr Uchafbwynt Rhewlifol Olaf. Gan fod cymysgu cefnforol oherwydd y llanw yn un o'r prif ffynonellau ynni ar gyfer cylchrediad y cefnfor byd-eang ac felly'n bwysig i'r hinsawdd, mae hyn yn golygu bod angen i astudiaethau o hinsawdd y gorffennol ystyried newidiadau yn y llanw."