I lawer o rywogaethau, mae’r wybodaeth sydd ei hangen i wneud asesiadau risg difodiant yn brin - problem sy'n arbennig o ddifrifol mewn rhanbarthau bioamrywiol megis Madagascar. Mae gwyddonwyr hefyd yn ofni y gall y dulliau cyfredol o asesu risg difodiant fod yn tanamcangyfrif y broblem.
Mae astudiaeth newydd wedi dangos y gallai dulliau genomeg hawdd eu gweithredu gyflymu’r gwaith o asesu risg difodiant mewn rhywogaethau sydd heb eu hastudio'n fanwl, ond mae'r ymchwil yn rhoi golwg dra anobeithiol o'r difrod sydd eisoes wedi'i wneud.
Mae Madagascar yn enwog am ei bioamrywiaeth anhygoel, ac nid yw rhywogaethau planhigion yr ynys yn eithriad, ond mae pwysau'r byd modern yn fygythiad i fioamrywiaeth Madagascar. Mae llawer o rywogaethau Madagascar yn “ficroendemigau” - sef rhywogaethau prin iawn lle mai dim ond poblogaethau bach, arwahanol ohonynt sydd i’w cael ac nid ydynt i’w cael yn unman arall yn y byd. Mae sut mae cymaint o'r rhywogaethau microendemig hyn wedi esblygu wedi parhau i fod yn ddirgelwch.
Ymchwiliodd tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Bangor ac o Erddi Botaneg Brenhinol Kew i weld a yw’r rhywogaethau prin hyn wedi bod yn brin erioed neu ai wedi prinhau yn ddiweddar y maent yn sgil effeithiau dynol, megis datgoedwigo a difodiant anifeiliaid mawr.
Mae’r ymchwil, a gyhoeddwyd yn Royal Society Proceedings B heddiw (22.9.21) yn dangos bod llawer o rywogaethau microendemig Madagascar wedi profi dirywiad cyflym ers dyfodiad bodau dynol i’r ynys.
Colli amrywiaeth mewn modd cudd
Eglurodd Alex Papadopulos, sy’n Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor:
“Mae hyn yn dwyn sylw at y ffaith y gallai rhywogaethau nad ydynt wedi cael eu hasesu neu nad ydynt yn cael eu hystyried fel rhai sydd dan fygythiad fod wedi profi cwymp sylweddol yn eu poblogaeth yn lled ddiweddar mewn hanes. Mae colli amrywiaeth mewn modd cudd fel hyn yn golygu y gallant fod yn llai abl i ddelio â newid amgylcheddol.
Ar nodyn mwy cadarnhaol, rydym wedi dangos y gall genomeg helpu i nodi’n gyflym pa rywogaethau sydd angen ymyrraeth gadwriaethol ar frys. Gallai hwn fod yn declyn newydd amhrisiadwy ar gyfer gwaith cadwraeth.”
Dywedodd Dr Bill Baker, Uwch Arweinydd Ymchwil yng Ngerddi Botaneg Brenhinol Kew:
“Yn Kew, rydyn ni wedi astudio palmwydd Madagascar gyda'n cydweithwyr yn y wlad ers dros 30 mlynedd ac wedi darganfod llawer o rywogaethau rhyfeddol sy'n newydd i wyddoniaeth. Mae mwy nag 80% o'r rhain dan fygythiad difodiant. Er enghraifft, cafodd Satranala decussilvae, sef palmwydden wyntyllog enfawr, ei darganfod fel rhywogaeth newydd i wyddoniaeth gan fotanegwyr Kew ym 1991, ond mae eisoes wedi'i nodi fel rhywogaeth sydd mewn perygl gydag efallai dim ond 200 o blanhigion ar ôl yng ngogledd-ddwyrain Madagascar. Mae'r astudiaeth hon yn dangos bod Satranala yn llawer mwy niferus yn y gorffennol a’i fod yn dirywio’n gyflym - mae hyn yn dweud wrthym mai nawr yw’r amser i weithredu.”