Daw hyn wrth i fodurwyr ledled y wlad barhau i gael trafferth prynu tanwydd mewn gorsafoedd petrol oherwydd prinder gyrwyr HGV.
Mae hyn yn dilyn honiad Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Kwasi Kwarteng, y gallai hydrogen ddarparu traean o ynni’r wlad wrth i’r llywodraeth anelu at allyriadau sero net.
Ond mae'r Deyrnas Unedig eisoes yn ceisio dal i fyny â chystadleuwyr yn Ewrop a thu hwnt a rhaid iddi gynyddu ei hymdrechion yn gyflym, meddai'r economegydd Dr Edward Jones, o Brifysgol Bangor.
Mae trenau hydrogen cyntaf y byd yn gweithredu ar ddarn 100km o drac yn yr Almaen tra bod car cell tanwydd masnachol cyntaf y byd wedi ei bweru gan hydrogen wedi ei gynhyrchu gan wneuthurwr o Japan.
Meddai Dr Jones, o Ysgol Busnes Prifysgol Bangor: “Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi sicrhau bod £4.8 miliwn ar gael i ddatblygu ynni hydrogen yng ngogledd orllewin Cymru a bydd hynny'n helpu’r fenter gymdeithasol Menter Môn i ddatblygu'r dechnoleg yn y rhanbarth a chefnogi'r economi hefyd.”
Mae'n credu bod gan ogledd Cymru'r isadeiledd i wneud yr ardal yn brif leoliad hydrogen y Deyrnas Unedig ond ychwanegodd: “Mae Tsieina, cenhedloedd yr UE, ac UDA yn ystyried hydrogen fel y seren roc ynni newydd ac maent yn brysur yn sefydlu economi hydrogen.
“Mae’n rhaid i ni afael ynddi ac mae’n rhaid i’r llywodraeth yng Nghaerdydd a San Steffan gefnogi hydrogen gwyrdd ac uwchsgilio pobl i weithio gyda hydrogen.
“Yn sicr, mae hydrogen yn cynnwys heriau unigryw. Mae'r nwy yn swmpus, mae angen offer arbenigol drud a all fod yn gostus i'w gynnal, a dim ond ychydig o bobl sydd â phrofiad o weithio gyda hydrogen.
“Ond mae’r costau’n gostwng oherwydd y gystadleuaeth rhwng gwledydd ym maes technoleg hydrogen. Roedd hyn yn wir gyda phaneli solar, a gostyngodd y costau cysylltiedig wrth i’w defnydd gynyddu.
“Mae hwn yn faes cyffrous a gall gogledd Cymru fod yn rhan ganolog ohono. Mae'r dechnoleg yn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ac mae hefyd yn cynnig llawer o swyddi o ansawdd uchel sy'n talu'n dda.
“Mae gennym y potensial i ddefnyddio’r arbenigedd yn M-SParc ar Ynys Môn a’r isadeiledd i gysylltu â’r Grid Cenedlaethol.
“Gall Cymru ddod yn ganolfan y Deyrnas Unedig ar gyfer y ffynhonnell ynni newydd gyffrous hwn gyda phrojectau hydrogen eraill yn mynd rhagddynt ar Lannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint ac yn Aberdaugleddau yn Sir Benfro.
“Dim ond hydrogen gwyrdd a wneir gydag ynni adnewyddadwy sy’n cael ei ystyried i fod yn gwbl gynaliadwy. Yr hyn sy'n gwneud Ynys Môn yn bwysig yw bod gennym gysylltiad posib yma â phrojectau adnewyddadwy eraill yn y rhanbarth, megis potensial llanw project Morlais yng Nghaergybi y mae Menter Môn hefyd yn ymwneud ag ef."
Mae Menter Môn wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid dros y ddwy flynedd ddiwethaf i ddatblygu Canolfan Hydrogen Caergybi. Ymhlith y rhain mae Cyngor Sir Ynys Môn, Stena, Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai, yn ogystal â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Esboniodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn: “Yn ogystal â chyfrannu at sero net, ein cymhelliant yw sicrhau'r budd economaidd mwyaf posib o'r project hwn. Credwn mai'r ffordd orau o gyflawni hyn yw trwy sicrhau perchnogaeth leol, fel rydym yn anelu at ei wneud gyda phroject Morlais."
Pan gaiff ei gynhyrchu gydag ynni adnewyddadwy, mae nwy hydrogen yn lleihau allyriadau carbon deuocsid ac yn darparu dewis arall “mwy gwyrdd” yn lle tanwydd ffosil fel olew neu nwy naturiol.
Caiff hydrogen ei greu trwy basio cerrynt trydanol trwy ddŵr i wahanu hydrogen ac ocsigen, gan adael dŵr glân fel yr unig sgil-gynnyrch. Mae cell danwydd yn caniatáu i'r broses gael ei gwrthdroi fel y gall hydrogen gynhyrchu trydan wedyn.
Mae'r Deyrnas Unedig wedi cyflwyno gwaharddiad ar geir petrol a disel newydd o 2030 a gallai ceir â thanwydd hydrogen fod yn beth cyffredin ar ffyrdd gogledd Cymru yn y dyfodol.
Cred Dr Jones y gallai hydrogen hefyd fod yn allwedd i bweru trafnidiaeth yn y dyfodol trwy ddyfais o'r 19eg ganrif (datblygwyd y gell tanwydd hydrogen yn Abertawe gan William Grove ym 1842).
Gwneir batris ceir trydan cyfredol gan ddefnyddio lithiwm a chobalt, cemegion sy'n anodd eu hechdynnu ac sydd â pheryglon amgylcheddol mawr yn gysylltiedig â hwy ac sydd bron yn amhosib eu hailgylchu.
Meddai Dr Jones: “Mae celloedd tanwydd hydrogen yn darparu ateb posib i’r her o drawsnewid y sector trafnidiaeth ac oherwydd mai dyna’r elfen fwyaf cyffredin ar y ddaear, nid yw’r cyflenwad yn broblem.
“Gallai cerbyd sy’n cael ei bweru gan gell tanwydd hydrogen fynd hyd at 500 milltir cyn bod rhaid ei ailwefru ac wedyn ei ailwefru mewn chwarter awr, a chynhyrchu stêm yn hytrach na charbon monocsid.”
“Yng ngogledd orllewin Cymru mae gennym hefyd ddigon o botensial i ynni gwyrdd allu cynhyrchu hydrogen trwy ynni adnewyddadwy.
“Mae'r costau yn uchel ar hyn o bryd a byddai angen cymorthdaliadau i gau’r bwlch gyda thanwydd cyfredol, ond wrth ei gynhyrchu bydd y costau'n gostwng.
“Mae'r byd yn uno i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd ac mae gan ogledd Cymru ran hanfodol yn y gwaith o gadw'r blaned ar y trywydd iawn i sicrhau allyriadau sero net erbyn 2050.”